Bwyd a Chi 2 – CSHB Cylch 8: Pennod 4 – Agweddau tuag at arddangos sgoriau’r CSHB
Mae busnesau bwyd yn cael sticer sy’n dangos eu sgôr hylendid bwyd. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr ond, yn Lloegr, caiff busnesau eu hannog i arddangos eu sgôr. Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o agweddau tuag at y Cynllun Sgorio, gan gynnwys barn am y gofyniad i arddangos sgoriau a ble y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd.
Barn am y gofyniad i arddangos sgoriau ar sail orfodol
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent yn meddwl y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd, neu a ddylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu a ydynt am wneud hynny ai peidio. (footnote 1) O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd 91% yn meddwl y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd, ac roedd 5% yn meddwl y dylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu a ydynt am wneud hynny ai peidio. Nid oedd 4% o’r ymatebwyr yn gwybod a ddylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith neu a ddylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu. Roedd y canfyddiad hwn yn debyg ar draws y tair gwlad; roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yng Nghymru (94%), Gogledd Iwerddon (94%) a Lloegr (91%) yn meddwl y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd**. (footnote 2)
Gofynnwyd i’r ymatebwyr hefyd a oeddent yn meddwl y dylai busnesau sy’n cynnig gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd. O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd 93% yn meddwl y dylai busnesau sy’n cynnig gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd, roedd 1% yn meddwl na ddylai hynny fod yn orfodol, a dywedodd 5% nad oeddent yn gwybod. Roedd y canfyddiad hwn yn debyg ar draws Cymru (95%), Gogledd Iwerddon (95%) a Lloegr (93%)**. (footnote 3)
Barn am y man lle y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ymhle y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd, gan ddewis o blith rhestr o leoliadau. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn meddwl y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd ar wefannau bwytai neu gaffis (93%), ar wefannau siopau tecawê (93%), ar wefannau gwestai neu letai gwely a brecwast (92%), ac ar wefannau neu apiau cwmnïau archebu a dosbarthu bwyd (92%). Roedd tua 8 o bob 10 o’r ymatebwyr o’r farn y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd ar wefannau archfarchnadoedd (81%) ac ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol busnesau bwyd (81%) (Ffigur 19). (footnote 4)
Ffigur 19. Mannau lle mae’r ymatebwyr yn meddwl y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
-
Cyflwynwyd deddfwriaeth i’w gwneud yn orfodol i fusnesau arddangos sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd mewn safleoedd yng Nghymru ym mis Tachwedd 2013 ac yng Ngogledd Iwerddon ym mis Hydref 2016.
-
Cwestiwn: Ydych chi’n meddwl y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar eu safleoedd, neu a ddylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu a ydynt am wneud hynny ai peidio? Ymatebion: Dylai fod yn rhaid iddynt ei harddangos; Dylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 4512, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ trwy’r post a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, ac eithrio’r rheiny a oedd ‘heb nodi’.
-
Cwestiwn: Ydych chi’n meddwl y dylai gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos ei sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd? Ymatebion: Gallaf; Na allaf; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 4510, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ trwy’r post a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, ac eithrio’r rheiny a oedd ‘heb nodi’.
-
Cwestiwn: Ydych chi’n meddwl y dylid arddangos y sgoriau hylendid… Ar apiau a gwefannau cwmnïau archebu a dosbarthu bwyd sy’n caniatáu i chi archebu bwyd o amrediad o fwytai a siopau tecawê lleol? / Ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol busnes bwyd? / Ar wefan bwyty neu gaffi? / Ar wefan siop tecawê? / Ar wefan gwesty neu lety gwely a brecwast? / Ar wefan archfarchnad? Sylfaen = 4966, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ drwy’r post.
Hanes diwygio
Published: 16 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Rhagfyr 2024