Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food Hygiene Rating Scheme (FHRS) Food and You 2: Wave 6

Atodiad A: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Mae'r atodiad yn rhoi manylion am gefndir a methodoleg arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 6.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 November 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 November 2023

Cefndir

Yn 2018, sefydlodd y Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol (y Pwyllgor) Weithgor Bwyd a Chi newydd i adolygu methodoleg, cwmpas a ffocws yr arolwg Bwyd a Chi. Ym mis Ebrill 2019, darparodd y Gweithgor Bwyd a Chi gyfres o argymhellion i’r ASB a’r Pwyllgor ynghylch trywydd yr arolwg Bwyd a Chi yn y dyfodol. Lluniwyd arolwg Bwyd a Chi 2 ar sail yr argymhellion hynny. 

Mae arolwg Bwyd a Chi 2 wedi disodli’r arolwg Bwyd a Chi wyneb yn wyneb a gynhaliwyd bob dwy flynedd (2010-2018), Arolwg Tracio Agweddau’r Cyhoedd a gynhaliwyd ddwywaith y flwyddyn (2010-2019) ac Arolwg Tracio Agweddau Defnyddwyr y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a gynhaliwyd yn flynyddol (2014-2019). Mae’r arolwg Bwyd a Chi wedi bod yn Ystadegyn Swyddogol ers 2014. Gan fod cynnwys y cwestiynau, y dull cyflwyno a’r dull ymateb yn wahanol, ni ddylid cymharu’r arolygon cynharach hyn ag arolwg Bwyd a Chi 2 yn uniongyrchol.

Mae cyhoeddiadau blaenorol am y CSHB yn y gyfres hon yn cynnwys:

Methodoleg

Comisiynir arolwg Bwyd a Chi 2 gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Cynhelir y gwaith maes gan Ipsos. Cynhelir arolwg Bwyd a Chi 2 ddwywaith y flwyddyn. Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer Cylch 6 rhwng  12 Hydref 2022 a 10 Ionawr 2023. 

Cyfraddau ymateb

Ar gyfer Cylch 6, cwblhawyd yr arolwg gan gyfanswm o 5,991 o oedolion o 4,217 o gartrefi ledled Cymru (1,015 o oedolion), Lloegr (2,072 o oedolion) a Gogledd Iwerddon (1,088 o oedolion). Cafwyd cyfradd ymateb gyffredinol o 28.8%. Cwblhaodd 63.8% o’r ymatebwyr yr arolwg ar-lein a 36.2% trwy’r post.

Mae Bwyd a Chi 2 yn defnyddio dull modiwlaidd lle gofynnir rhai cwestiynau ym mhob cylch o’r arolwg, tra bydd cwestiynau eraill yn codi’n llai aml, er enghraifft bob blwyddyn neu bob dwy flynedd. Mae’r adroddiad hwn yn bennaf yn cyflwyno canfyddiadau modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 6 mewn perthynas â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). Gofynnir y cwestiynau hyn yn flynyddol. 

Mae rhai o’r canfyddiadau hyn wedi’u cynnwys yn Adroddiad Prif Ganfyddiadau Bwyd a Chi 2:  Cylch 6, ond cyflwynir y canfyddiadau’n fanylach yn yr adroddiad hwn.

Cwblhaodd cyfanswm o 4,918 o oedolion (16 oed neu’n hŷn) ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ drwy’r holiadur ar-lein neu drwy’r holiadur post ‘Bwyta allan’. Ni fydd pob ymatebwr wedi ateb pob cwestiwn, gan fod atebion i’r cwestiynau’n dibynnu ar ymddygiadau, gwybodaeth ac agweddau hunan-gofnodedig yr ymatebwyr.

Dyluniad yr arolwg

Arolwg dilyniannol modd-cymysg sy’n annog pobl i’w lenwi ar-lein yw arolwg Bwyd a Chi 2. Derbyniodd sampl o gyfeiriadau (a ddewiswyd ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol) lythyr yn gwahodd hyd at ddau oedolyn (16 oed neu’n hŷn) yn y cartref i lenwi’r arolwg ar-lein. Anfonwyd llythyr atgoffa cyntaf at gartrefi nad oeddent wedi ymateb i’r gwahoddiad cychwynnol. Anfonwyd fersiwn bost o’r arolwg gyda’r ail lythyr atgoffa at y rhai heb fynediad i’r rhyngrwyd neu’r rheiny yr oedd yn well ganddyn nhw lenwi fersiwn o’r arolwg trwy’r post. Mae hyn yn helpu i leihau’r gogwydd ymateb sydd fel arall yn digwydd gydag arolygon a gynhelir ar-lein yn unig. Anfonwyd trydydd nodyn atgoffa – a’r un terfynol – at y cartrefi hynny nad oedden nhw wedi llenwi’r arolwg ar-lein. Rhoddwyd taleb i’r ymatebwyr am lenwi’r arolwg.

Oherwydd hyd a chymhlethdod yr holiadur ar-lein, nid oedd yn bosib cynnwys pob cwestiwn yn y fersiwn bost. Er mwyn i’r holiadur post fod yn fyrrach ac yn llai cymhleth, crëwyd dwy fersiwn ohono. 

Pwysoliad

Defnyddiwyd pwysoliad i sicrhau bod y data mor agos â phosib at fod yn gynrychioliadol o is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill yn y boblogaeth, yn ôl yr arfer gydag arolygon y llywodraeth. Mae’r pwysoliad a ddefnyddir o ran data Bwyd a Chi 2 yn helpu i wneud iawn am amrywiadau yn y dewisiadau a wneir gan unigolion yn yr un cartref, am y gogwydd ymateb, ac am y ffaith mai dim ond yn un o’r arolygon post y gofynnwyd rhai cwestiynau.
 
Ceir rhagor o fanylion am y fethodoleg, cyfraddau ymateb, y dull pwysoli, ynghyd â’r pwysoliadau a ddefnyddir gyda data Bwyd a Chi 2: Cylch 6 yn yr Adroddiad Technegol.

Dehongli’r canfyddiadau

Mae’r holl ddata a gesglir trwy arolwg Bwyd a Chi 2 yn hunangofnodedig. Mae’r data’n dangos agweddau, gwybodaeth ac ymddygiad yr ymatebwyr eu hunain o ran diogelwch bwyd a materion bwyd. Gan mai arolwg ymchwil gymdeithasol yw Bwyd a Chi 2, ni all adrodd am ymddygiadau yr arsylwyd arnyn nhw. 

Mae’r gwerthoedd p sy’n profi arwyddocâd ystadegol yn seiliedig ar brofion t sy’n cymharu’r cyfrannau wedi’u pwysoli ar gyfer ymateb penodol o fewn is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill. Gwnaed addasiad ar gyfer maint gwirioneddol y sampl ar ôl pwysoli, ond ni wneir cywiriad ar gyfer cymariaethau lluosog.

Fel arfer, pan adroddir am wahaniaethau rhwng is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill, ceir o leiaf 10 pwynt canrannol o wahaniaeth rhwng y grwpiau ac maent yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p<0.05). Fodd bynnag, cafodd rhai gwahaniaethau rhwng grwpiau o ymatebwyr eu cynnwys lle’r oedd y gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canrannol, a hynny os oedd y canfyddiad yn nodedig neu’n ddiddorol. Mae cyfrifiadau canrannol yn seiliedig ar yr ymatebwyr hynny a roddodd ymateb yn unig. Mae’r gwerthoedd a’r cyfrifiadau a adroddir yn seiliedig ar gyfansymiau wedi’u pwysoli. 

Termau technegol a diffiniadau

  1. Nodir arwyddocâd ystadegol ar y lefel 5% (p<0.05). Felly, pan fydd yr adroddiad yn nodi gwahaniaeth sylweddol, gellir bod yn weddol hyderus bod y gwahaniaeth a adroddwyd yn adlewyrchu gwahaniaeth gwirioneddol ar lefel y boblogaeth. 
  2. Mae diogeledd bwyd yn golygu bod pawb yn gallu cael mynediad at ddigon o fwyd bob amser i fyw bywyd iach ac egnïol (Uwchgynhadledd Bwyd y Byd, 1996). Mae Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA) wedi creu cyfres o gwestiynau sy’n nodi lefel diogeledd bwyd ymatebwyr. Mae Bwyd a Chi 2 yn ymgorffori 10 eitem Modiwl Arolwg Diogeledd Bwyd Oedolion yn yr Unol Daleithiau ac yn cwmpasu cyfnod cyfeirio o 12 mis. Cyfeirir at ymatebwyr fel rhai sydd â diogeledd bwyd os ydynt wedi’u hystyried fel rhai sydd â diogeledd bwyd uchel iawn (heb fod wedi nodi bod ganddynt broblemau neu gyfyngiadau o ran cael mynediad at fwyd), neu sydd â diogeledd bwyd ymylol (wedi nodi un neu ragor o broblemau – fel arfer pryder ynghylch digonolrwydd bwyd neu brinder bwyd yn y tŷ. Dim arwydd, neu ychydig arwydd, o newidiadau mewn deietau neu fwyta llai o fwyd). Cyfeirir at ymatebwyr fel rhai nad oes ganddynt ddiogeledd bwyd os ydynt wedi’u dosbarthu fel rhai sydd â diogeledd bwyd isel (wedi nodi dirywiad o ran ansawdd, amrywiaeth neu ddymunoldeb deiet. Ychydig neu ddim arwydd o fwyta llai o fwyd) neu ddiogeledd bwyd isel iawn (wedi nodi nifer o achosion o darfu ar batrymau bwyta a bwyd llai o fwyd). 
  3. System ddosbarthu yw Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sy’n awgrymu sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolion ar sail statws cyflogaeth a galwedigaeth.
  4. Mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar sail ardal ddaearyddol yw’r Mynegai Amddifadedd Lluosog (IMD)/Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)/Mesur Amddifadedd Lluosog Gogledd Iwerddon (NIMDM). Neilltuir dosbarthiad IMD/MALlC/NIMDM yn ôl cod post neu enw lle. Mae’n gyfrifiad amlddimensiwn y bwriedir iddo gynrychioli’r amgylchiadau byw yn yr ardal, gan gynnwys incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, tai, diogelwch cymunedol a’r amgylchedd ffisegol. Caiff ardaloedd bach eu sgorio gan IMD/MALlC/NIMDM; gwneir hyn ar wahân ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.