Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Online display of food hygiene ratings by food businesses in Wales

Arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein gan fusnesau bwyd yng Nghymru: Cyflwyniad

Penodol i Gymru

Cynhaliwyd yr ymchwil hon gydag awdurdodau lleol yng Nghymru, a gafodd eu gwahodd i gymryd rhan mewn gweithdy i archwilio eu safbwyntiau ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

1.1. Cefndir

Lansiwyd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) statudol yng Nghymru ym mis Tachwedd 2013. Mae’r CSHB yn rhoi ffordd gyflym a hawdd i ddefnyddwyr gael gwybodaeth am y safonau hylendid mewn busnesau bwyd. Mae awdurdodau lleol yn pennu sgoriau hylendid bwyd yn dilyn arolygiadau i wirio cydymffurfiaeth busnesau bwyd â chyfreithiau hylendid bwyd. Mae busnesau bwyd yn cael sgôr rhwng 0 (angen gwella ar frys) a 5 (da iawn) sy’n adlewyrchu safonau hylendid y busnes adeg yr arolygiad. 

Mae’n rhaid arddangos sgoriau hylendid bwyd gan ddefnyddio sticer rhagnodedig wrth fynedfeydd sefydliadau bwyd cwsmeriaid. Lle nad oes mynedfeydd, er enghraifft stondinau marchnad, rhaid arddangos sticeri mewn man amlwg lle gall defnyddwyr eu gweld. Mae’r sgoriau hefyd ar gael ar wefan yr ASB. Pan lansiwyd y CSHB, roedd yn berthnasol i bob sefydliad a oedd yn cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, ar yr amod nad oeddent wedi’u heithrio. Yn 2014, cafodd y CSHB ei ehangu i gynnwys sefydliadau bwyd sy’n ymwneud â masnach busnes-i-fusnes, er enghraifft gweithgynhyrchwyr bwyd. Ym mis Tachwedd 2016, datblygwyd y Cynllun ymhellach i’w gwneud yn ofynnol i fusnesau sy’n cyflenwi bwyd tecawê gyhoeddi datganiad dwyieithog ar rai deunyddiau hyrwyddo copi caled sy’n cyfeirio defnyddwyr at wybodaeth am y sgôr hylendid bwyd. 

Ym mis Chwefror 2018, cyhoeddodd yr ASB ei hadolygiad tair blynedd cyntaf o weithrediad y Cynllun. Canfu’r adolygiad fod arddangos sgoriau hylendid bwyd gorfodol wedi bod yn llwyddiant yng Nghymru. Ers cyflwyno’r CSHB, cynyddodd nifer y busnesau bwyd â sgôr o ‘5’ (da iawn) 21 pwynt canran ac roedd 95% o fusnesau wedi cyflawni sgôr o ‘3’ (boddhaol ar y cyfan) neu uwch. Roedd y nifer o fusnesau a oedd yn arddangos y sgoriau hefyd wedi codi o 21% yn 2012 i 88% yn 2019 a chanfuwyd bod ymwybyddiaeth defnyddwyr o sticeri’r CSHB yn uwch nag erioed (91%). 

Un o argymhellion yr adroddiad oedd bod yr ASB yn gweithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i ystyried pa mor ymarferol fyddai cyflwyno gofyniad i ddarparu gwybodaeth am sgoriau ar lwyfannau archebu bwyd ar-lein. 

Gan gydnabod bod mwy a mwy o ddefnyddwyr yn prynu bwyd ar-lein, ym mis Mehefin 2019 comisiynodd Gweinidog Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr ASB i ystyried opsiynau ar gyfer ehangu cwmpas y Cynllun i sicrhau bod busnesau bwyd yn arddangos gwybodaeth am sgoriau hylendid bwyd ar eu gwefannau. 

Wrth edrych i’r dyfodol, bydd llwyddiant parhaus y CSHB yn dibynnu ar roi mynediad i ddefnyddwyr at y sgoriau ar yr amser cywir ac yn y lle iawn er mwyn iddynt allu gwneud dewisiadau gwybodus o ran ble i brynu eu bwyd. Gallai busnesau bwyd sy’n darparu sgoriau ar-lein sy’n hawdd cael mynediad atynt helpu defnyddwyr gyda’u penderfyniadau prynu a sicrhau bod y CSHB yn parhau i fod yn berthnasol. 

Comisiynodd yr ASB Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) i archwilio safbwyntiau swyddogion awdurdodau lleol ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd arddangos eu sgoriau ar-lein.

1.2 Amcanion

Canfod safbwyntiau swyddogion awdurdodau lleol ar gynigion i’w gwneud yn orfodol i fusnesau bwyd yng Nghymru arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein. Yn benodol, cael safbwyntiau awdurdodau lleol ar y canlynol: 

  • Cwmpas y cynigion
  • Y rhwystrau canfyddedig i fusnesau 
  • Heriau gweithredu
  • Heriau gorfodi
  • Datrysiadau i heriau gweithredu a gorfodi
  • Yr adnoddau y gall fod eu hangen ar fusnesau ac awdurdodau lleol i gefnogi gweithredu

1.3 Methodoleg

Gwahoddwyd awdurdodau lleol yng Nghymru i gymryd rhan mewn gweithdy i archwilio eu safbwyntiau ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein. Anfonwyd gwahoddiadau gan yr ASB yn gofyn am un cynrychiolydd o bob awdurdod lleol, gyda’r amod bod angen i’r rhai a oedd yn bresennol fod yn wybodus ac yn brofiadol o ran gweithrediad y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol. Roedd swyddogion yn enwebu eu hunain a chynhaliwyd y gweithdy yn Llandrindod ar 18 Rhagfyr 2019.

Er mwyn deall persbectif y defnyddiwr yn well, gosodwyd tasg cyn y gweithdy i’r swyddogion ymgymryd â rôl ‘defnyddiwr cyffredin’, drwy naill ai archebu bwrdd o bell yn un o’u hoff fwytai neu archebu bwyd ar-lein, gan ystyried yr wybodaeth am sgoriau hylendid bwyd a oedd ar gael iddynt wrth wneud y trefniadau hyn, a dogfennu eu profiad fel defnyddiwr. Ar ben hyn, gofynnwyd iddynt fod yn barod i rannu eu profiad gyda chynrychiolwyr eraill yn y gweithdy. 

Dechreuodd y gweithdy gyda sesiwn torri’r iâ, gyda’r cynrychiolwyr yn rhannu eu hadborth ar hygyrchedd gwybodaeth am sgoriau cywir a ganfuwyd yn ystod y dasg cyn y gweithdy. 

Yna bu’r cynrychiolwyr yn gweithio mewn grwpiau bach i drafod eu hymatebion i gyfres o gwestiynau a oedd ar gyflwyniad powerpoint a nodi eu safbwyntiau ar y siartiau papur a ddarparwyd.  

Rhoddwyd cyfle pellach i swyddogion gymryd rhan mewn trafodaeth a hwyluswyd gan CIEH mewn gweithdai a gynigiwyd fel rhan o ddigwyddiad ymgysylltu wyneb yn wyneb ehangach â’r ASB ar 27 Chwefror 2020.