Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Online display of food hygiene ratings by food businesses in Wales

Arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein gan fusnesau bwyd yng Nghymru: Adborth cyffredinol o'r gweithdy

Penodol i Gymru

Mae’r adran hon yn ymdrin ag adborth cyffredinol gan gyfranogwyr yn y gweithdy.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

2.1 Adborth o’r sesiwn torri’r iâ

Roedd y sesiwn torri’r iâ yn gyfle i gyfranogwyr y gweithdai brofi a rhoi adborth ar hygyrchedd a dibynadwyedd gwybodaeth am sgoriau hylendid bwyd ar-lein o safbwynt defnyddwyr. Roedd amrywiaeth sylweddol yn yr wybodaeth a oedd ar gael ac roedd y cyfranogwyr yn hapus i rannu eu profiadau.
 
Dywedodd y rhan fwyaf o gyfranogwyr eu bod wedi defnyddio peiriant chwilio fel Google i ddod o hyd i wybodaeth am sgoriau’r busnesau bwyd yr oedd ganddynt ddiddordeb ynddynt. Eu canfyddiad oedd, er bod ymwybyddiaeth defnyddwyr o sticeri sgôr hylendid bwyd sy’n cael eu harddangos mewn safleoedd yn uchel, roedd eu hymwybyddiaeth fod y sgoriau hylendid ar gael ar wefan yr ASB yn isel. O ganlyniad, roeddent yn meddwl y byddai defnyddwyr yn defnyddio peiriant chwilio yn reddfol i ddod o hyd i wybodaeth am sgoriau.

Dywedodd y cyfranogwyr fod chwilio am y geiriau ‘sgôr hylendid bwyd’, ac yna enw’r sefydliad, wedi arwain at nifer o opsiynau o ran gwefannau, gan gynnwys scoresonthedoors.org.uk, foodhygieneratings.org.uk, grubbee.co.uk, yn ogystal â gwefan yr ASB. Roeddent hefyd yn nodi nad oedd gwybodaeth am sgoriau’r ASB, sef y ffynhonnell fwyaf dibynadwy, yn ymddangos ar frig y rhestr o ganlyniadau. 

Nodwyd bod un o’r gwefannau yn darparu’r pedair sgôr hylendid bwyd diweddaraf a bod gwefan arall heb ddiweddaru ers mis Rhagfyr 2017, er bod y sefydliad wedi bod yn destun arolygiad yn ystod y chwe mis diwethaf.

Dywedodd un swyddog a oedd wedi defnyddio peiriant chwilio a defnyddio enw’r sefydliad bwyd yn unig, nad oedd unrhyw wybodaeth am sgoriau hylendid bwyd ar gael. 

Dywedodd swyddogion a ddewisodd wefan yr ASB i gael mynediad at sgoriau nad oedd sgoriau ar gael ar unwaith, a bod angen mewnbwn pellach gan ddefnyddwyr. 

Yn dilyn trafodaeth ar ganfyddiadau’r sesiwn torri’r iâ, roedd y cyfranogwyr yn cytuno’n gyffredinol bod angen i’r wybodaeth am sgoriau fod yn fwy dibynadwy a hygyrch ar-lein er budd defnyddwyr. 

2.2 Sylwadau cyffredinol gan gyfranogwyr

  • Yn dilyn y sesiwn torri’r iâ, cafwyd trafodaeth wedi’i hwyluso, a dyma safbwyntiau’r cyfranogwyr: 
  • Roedd cefnogaeth gref o ran darparu gwybodaeth am sgoriau hylendid bwyd fwy dibynadwy a hygyrch ar-lein, gan adlewyrchu bod mwy o bobl yn prynu bwyd ar-lein
  • Roedd cefnogaeth gref i gael ap ar gyfer dyfeisiau symudol a noddir gan yr ASB cyn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau ddarparu gwybodaeth am sgoriau ar-lein. Byddai hyn yn rhoi mynediad haws a chyflymach at sgoriau i ddefnyddwyr na thrwy’r wefan ac yn ei gwneud yn haws i gasglu data, er enghraifft data ar ddefnydd a gweithgarwch. Byddai cael yr ap ar sgriniau cartref defnyddwyr hefyd yn cryfhau adnabyddiaeth o’r brand, gan sicrhau ei fod ar flaen eu meddwl. Gall ap ar ddyfeisiau symudol hefyd ei gwneud yn bosib rhyngweithio â defnyddwyr trwy hysbysiadau gwthio (push notifications)
  • Roedd cefnogaeth gref i’r ASB fod yn fwy rhagweithiol wrth godi ymwybyddiaeth defnyddwyr o’r wybodaeth sydd eisoes ar gael, er enghraifft y sgoriau ar wefan yr ASB
  • Roedd cefnogaeth gref i’r ASB ‘chwalu camsyniadau’, er enghraifft, y gred bod sgoriau isel yn ganlyniad i’r ffaith bod gwaith papur wedi dyddio 
  • Roedd cefnogaeth gref i wella gwefan yr ASB er mwyn iddi fod yn fwy hwylus i ddefnyddwyr. Mynegodd y cyfranogwyr beth siom nad oedd mwy o ddatblygiad wedi digwydd. Roeddent yn awgrymu bod angen peiriant chwilio gwell a fyddai’n galluogi defnyddwyr i chwilio yn ôl: Math o fusnes; Sefydliadau o fewn pellter penodol i’w lleoliad; a Sgoriau, er enghraifft 4 neu uwch
  • Dywedodd cyfranogwyr ei bod yn bwysig lleihau nifer y sgriniau neu ‘gliciau’ y mae’n rhaid i ddefnyddwyr eu defnyddio i gael mynediad at sgôr gan fod amser defnyddwyr yn brin fel arfer
  • Roedd cyfranogwyr yn cefnogi darparu gwybodaeth am sgoriau ar ffurf map ar-lein, gyda’r potensial o ddatblygu hyn ymhellach i gynnwys haenau ychwanegol o wybodaeth, enghraifft canlyniadau samplu bwyd, gwybodaeth am unrhyw hysbysiadau cyfreithiol a roddwyd i’r sefydliad a chanlyniad unrhyw erlyniadau 
  • Mae angen ymchwil i nodi pam mae busnesau sy’n ymdrechu i gael sgôr o 5 yn aml yn amharod i ddefnyddio’r sgôr ar eu deunydd marchnata pan fyddant yn cyflawni’r sgôr uchaf
  • Roedd cefnogaeth gref i bob agregwr sicrhau bod sgoriau ar gael ar eu gwefannau yn wirfoddol cyn cyflwyno gofyniad deddfwriaethol
  • Bod potensial i’r ASB weithio gydag agregwyr i ymchwilio i ba raddau y mae gwell hygyrchedd ac amlygrwydd o ran y gwybodaeth am sgoriau ar-lein ar eu gwefannau yn dylanwadu ar arferion defnyddwyr
  • Bod angen gwerthuso effaith gofyn am roi gwybodaeth am sgoriau ar ddeunydd copi caled. A yw wedi dylanwadu ar arferion defnyddwyr ac a yw absenoldeb yr wybodaeth hon wedi arwain at unrhyw gwynion gan ddefnyddwyr?
  • Bod consensws y gallai ei gwneud yn orfodol i fusnesau arddangos y sgoriau ar-lein godi safonau ymhellach

2.3 Cwmpas a graddfa’r cynigion

O ran cwmpas a graddfa’r cynigion, roedd cyfranogwyr yn reddfol o’r farn y dylai pob busnes y mae’n ofynnol iddo ar hyn o bryd arddangos ei sgôr, a oedd hefyd â phresenoldeb ar-lein, gael eu cynnwys yng nghwmpas unrhyw ofynion arddangos ar-lein, gan gynnwys y rhai sy’n cyflenwi busnesau eraill yn unig, gan y byddai hyn yn cynorthwyo busnesau i fonitro eu cyflenwyr.  

  • Pwysleisiodd y cyfranogwyr yr angen i ddiffinio ‘ar-lein’. Yn gyffredinol, roedd y cyfranogwyr o’r farn y dylai gwybodaeth am sgoriau fod ar gael ar wefannau’r busnesau eu hunain, llwyfannau bwyd fel Just Eat a Deliveroo a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram a Twitter
  • Roedd consensws bod angen darparu sgoriau cyn i ddefnyddwyr brynu ar-lein ac wrth iddynt archebu bwrdd a bod peidio â chyflwyno’r wybodaeth hon yn hawdd yn mynd yn groes i ddiben y Cynllun
  • Cytunwyd mai’r sefyllfa a ffefrir fyddai cael sgôr ‘amser real’ ar wefannau busnesau, ond cydnabuwyd, pe bai hynny’n dibynnu ar fusnesau i ddiweddaru’r rhain eu hunain, y dylid ystyried darparu datganiad dwyieithog yn cyfeirio defnyddwyr at wefan yr ASB. 
  • Roedd consensws y dylid cynnwys agregwyr o fewn y cwmpas ac y dylai fod gofyniad i sgoriau hylendid bwyd fod yn fwy amlwg nag ydynt ar hyn o bryd ar eu gwefannau. Dylai gwybodaeth am sgoriau fod ar gael ar y pwynt y mae defnyddwyr yn dewis y sefydliad bwyd y maent yn dymuno prynu ohono, hynny yw cyn y pwynt archebu, gan eu galluogi i wneud penderfyniad yn seiliedig ar y sgôr.  
  • Mae angen ystyried yn ofalus sut y bydd modd i gadwyni â gwefannau generig gydymffurfio. Er mwyn bod o fudd i ddefnyddwyr, bydd angen gwybodaeth am sgôr benodol ar gyfer pob safle. 

2.4 Rhwystrau i fusnesau

  • O safbwynt busnesau, dyma’r materion a godwyd yn ystod y trafodaethau:
  • Mynegodd y cyfranogwyr bryderon efallai na fyddai gan fusnesau bach fynediad at y sgiliau TG sydd eu hangen i ddarparu gwybodaeth am eu sgoriau ar eu gwefannau, a’u diweddaru.. 
  • Bydd rhai busnesau yn dibynnu ar drydydd partïon am gymorth TG a fydd bron yn sicr yn arwain at gostau. Gall hyn gael ei ystyried yn faich ychwanegol gan y Llywodraeth, ac o ganlyniad efallai na chaiff ei gefnogi.
  • Mae angen ystyried amseriad cyhoeddi’r sgoriau gan fod busnesau sy’n cael sgôr o 5 weithiau’n rhannu’r sgôr ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn syth ar ôl arolygiad. Mae hyn cyn i’r sgoriau gael eu cyhoeddi ar wefan yr ASB. Mae potensial felly i ddrysu defnyddwyr. Mae’n bosib nad yw’r amserlenni presennol a nodir mewn deddfwriaeth ar gyfer arddangos sgoriau mewn safleoedd busnesau yn briodol ar gyfer arddangos ar-lein, er enghraifft 14 diwrnod ar gyfer hysbysu gweithredwr busnes bwyd o’r sgôr a rhoi sticer sgôr hylendid bwyd, 49 diwrnod i awdurdod bwyd roi gwybod i’r ASB am sgoriau ar ôl i weithredwr busnes bwyd gael y sgôr.
  • Roedd cefnogaeth gref i ddatrysiad TG awtomataidd am gost isel neu ddim cost o gwbl i fusnesau. Gall hyn fod yn hanfodol er mwyn ennill cefnogaeth wleidyddol.
  • Codwyd y broblem o ran hen sgoriau fel maes i’w ystyried ymhellach – yn aml mae’n anodd cael gwared ar wybodaeth sydd wedi ymddangos ar-lein, a gall hyn ddrysu defnyddwyr o bosib.