Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ymgynghoriad ynghylch cais am awdurdodi bwyd newydd: powdr madarch fitamin D2 (RP1158)

Penodol i Gymru a Lloegr

Hoffem dynnu sylw rhanddeiliaid at ymgynghoriad ychwanegol ar y defnyddiau arfaethedig a’r lefelau uchaf o bowdr madarch fitamin D2 oherwydd hepgoriad yn yr wybodaeth hon yn yr ymgynghoriad cychwynnol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 January 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 January 2023

Dyddiad lansio: 23 Ionawr 2023

Dyddiad cau: 06 Chwefror 2023

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf: 

  • Cymdeithasau masnach y diwydiant bwyd.
  • Gweithredwyr busnesau bwyd yn y DU sy'n dymuno defnyddio'r bwyd newydd.
  • Awdurdodau Gorfodi, gan gynnwys awdurdodau lleol, Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, a Chynghorau Dosbarth.  
  • Defnyddwyr a rhanddeiliaid ehangach.

Mae rhestr o bartïon sydd â buddiant wedi'i chynnwys yn Atodiad A.  

Pwnc a diben yr ymgynghoriad

Yn ddiweddar, ymgynghorodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban ar bedwar cynnyrch rheoleiddiedig (dau fwyd newydd, un ychwanegyn bwyd ac un cyflasyn) sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi ym Mhrydain Fawr).  Fodd bynnag, rydym wedi nodi hepgoriad a gwall mewn un fersiwn o’r pecyn ymgynghori er na chafodd yr hepgoriad a'r gwall hwn eu hailadrodd yn fersiwn PDF y pecyn ymgynghori

Mae adborth gan randdeiliaid yn parhau i fod yn hanfodol i broses dryloyw o lunio polisïau. Dyma’r rheswm dros dynnu sylw rhanddeiliaid at y diwygiadau hyn. 

Pwysig

Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau ychwanegol ar y diwygiad i'r ddogfen ymgynghori ar y cais am fwyd newydd a amlinellir isod. Dylid cyflwyno sylwadau o fewn pythefnos i ddyddiad y cyhoeddiad hwn ac mae’r un datganiad preifatrwydd yn berthnasol i unrhyw sylwadau sy’n dod i law ag sy’n berthnasol i ymgynghoriadau. Gellir gellir dod o hyd i fanylion y datganiad yn ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau. Dylid anfon sylwadau dros e-bost i: RPconsultations@food.gov.uk gyda'r llinell destun yn nodi ‘Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig – RP1158’.

Lansiwyd ein hymgynghoriad ar bedwar cynnyrch rheoleiddiedig (dau fwyd newydd, un ychwanegyn bwyd ac un cyflasyn) ym mis Hydref 2022 a bu’n rhedeg am 8 wythnos. Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau. Ar ôl yr ymgynghoriad, cam nesaf y broses awdurdodi yw i Weinidogion perthnasol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr wneud penderfyniadau am awdurdodi (gan roi gwybod i Weinidogion yng Ngogledd Iwerddon), gan ystyried safbwyntiau gwyddonol yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban, unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith yr UE a ddargedwir, ac unrhyw ffactorau dilys eraill, gan gynnwys y rheiny a godwyd yn y broses ymgynghori.

Fodd bynnag, rydym wedi nodi hepgoriad a gwall mewn un fersiwn o’r pecyn ymgynghori er na chafodd yr hepgoriad a’r gwall hwn eu hailadrodd yn fersiwn PDF y pecyn ymgynghori.  

Fel rhan o ymrwymiad yr ASB i lunio polisïau agored a thryloyw, mae'n bwysig bod rhanddeiliaid yn cael gwybod am yr hepgoriad a’r gwall hwn ac yn cael cyfle i wneud sylwadau.

Diwygiadau i’r telerau awdurdodi

Mae Tabl 1 o Atodiad B (RP1158, powdr madarch fitamin D2 ) yn nodi’r defnydd arfaethedig o’r bwyd newydd. 

Wrth ymgynghori ar awdurdodi’r bwyd newydd hwn, roedd y testun yn fersiwn hygyrch o Atodiad B, Tabl 1 yn nodi: 
 

  1. Llaeth a chynhyrchion llaeth - 1.1µg/100ml (wedi'u marchnata felly neu wedi'u hailgyfansoddi yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr)

Y testun cywir (fel y nodir yn y pecyn ymgynghori) yw:

2. Llaeth a phowdrau llaeth - 21.3µg/100g (wedi'u marchnata felly neu wedi'u hailgyfansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr)

Roedd y testun yn y fersiwn hygyrch o Atodiad B, Tabl 1 hefyd yn hepgor y categori bwyd penodol a ganlyn (nid oedd y gwall hwn yn y pecyn ymgynghori):

  • Cynhyrchion llaeth ac analogau fel diodydd - 1.1 µg/100 ml (wedi'u marchnata felly neu wedi'u hailgyfansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr)

Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn:

  1. A oes gennych chi unrhyw bryderon am ddiogelwch y bwydydd newydd sydd heb gael eu hystyried yn y pecyn ymgynghori mewn perthynas â’r defnyddwyr bwriadedig?
  2. A oes gennych chi unrhyw sylwadau neu bryderon am yr effeithiau wrth ystyried awdurdodi, neu beidio ag awdurdodi, y bwydydd newydd, ac os ydych o blaid awdurdodi, am delerau awdurdodi’r rhain (fel y’u hamlinellir yn safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban yn y pecyn ymgynghori)?
  3. A oes unrhyw ffactorau eraill y dylai Gweinidogion eu hystyried sydd heb eu hamlygu?
  4. A oes gennych unrhyw adborth arall?

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol a’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn.

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno sylwadau o fewn pythefnos i ddyddiad y cyhoeddiad hwn ac mae’r un datganiad preifatrwydd yn berthnasol i unrhyw sylwadau sy’n dod i law ag sy’n berthnasol i ymgynghoriadau. Gellir gellir dod o hyd i fanylion y datganiad yn ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau.

Dylid anfon sylwadau dros e-bost i: RPconsultations@food.gov.uk gyda'r llinell destun yn nodi ‘Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig – RP1158’.

Nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.

Y camau nesaf

Bydd unrhyw adborth i’r adolygiad hwn yn cael ei ystyried, ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad, wrth benderfynu’n derfynol ar gyngor i Weinidogion y DU. 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

Ein nod yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn o fewn 12 wythnos ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben.
I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau.
Rhennir ymatebion gyda Safonau Bwyd yr Alban.

Rhagor o wybodaeth

Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i'r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag Egwyddorion Ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi

Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

Yn gywir,
Hayley Bland,

Cynghorydd Polisi Cynhyrchion Rheoleiddiedig, 
Gwasanaethau Rheoleiddiedig
 

Atodiad A: Rhestr o randdeiliaid

Cysylltir yn uniongyrchol â chymdeithasau masnach rhanddeiliaid allweddol sydd â buddiant sylweddol mewn ychwanegion bwyd, ac a gynrychiolir ar draws pedair gwlad y DU, er mwyn cael eu hadborth am yr ymgynghoriad hwn: 

  • Breakfast Cereals UK
  • Cymdeithas Ddeieteg Prydain
  • Sefydliad Maetheg Prydain
  • Cymdeithas Sudd Ffrwythau Prydain
  • Consortiwm Manwerthu Prydain
  • Cymdeithas Diodydd Meddal Prydain
  • Cymdeithas Maeth Arbenigol Prydain
  • Busnes Cymru
  • Baby Milk Action
  • Campden BRI
  • Cymdeithas Cynhyrchwyr Cynhwysion Grawnfwydydd
  • Cyngor Maeth Cyfrifol y DU
  • Dairy UK
  • Ffederasiwn y Pobyddion
  • Ffederasiwn Busnesau Bach (Cymru)
  • Ffederasiwn Busnesau Bach (Gogledd Iwerddon)
  • Ffederasiwn Bwyd a Diod (Lloegr)
  • FDF Sector Group:  Bisgedi, Cacennau, Siocledi a Melysion 
  • FDF Sector Group: Ychwanegion bwyd
  • Ffederasiwn Bwyd a Diod (Cymru)
  • Cymdeithas y Diwydiant Ychwanegion Bwyd (FAIA)
  • Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Bwyd Iachus
  • Leatherhead Food International
  • Cymdeithas Bwyd a Diod Gogledd Iwerddon 
  • Consortiwm Manwerthu Gogledd Iwerddon 
  • Ffederasiwn Masnachu Bwydydd
  • Y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth
  • Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Byrbrydau, Cnau a Chreision (SNACMA)
  • Cymdeithas Blasau’r DU
  • Melinwyr Blawd y DU
  • Consortiwm Manwerthu Cymru
  • Which?

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.