Datganiad ar gyhoeddi Adolygiad o’r Fframwaith Rheoleiddio Bwydydd Newydd: Crynodeb Gweithredol
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi ymrwymo i gynnal safonau uchel y DU o ran diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid wrth weithio’n galed i gefnogi arloesedd ar draws y system fwyd hefyd.
Fel rhan o’n gwaith sy’n canolbwyntio ar fwydydd newydd ac arloesol, ym mis Hydref 2022, gwnaethom gyhoeddi gwahoddiad i dendro am adolygiad o’r Fframwaith Rheoleiddio Bwydydd Newydd, sef y broses a ddefnyddir i gyflwyno bwydydd newydd i farchnad y DU. Daeth ceisiadau i law a chawsant eu gwerthuso yn erbyn meini prawf masnachol a thechnegol penodol, gyda Deloitte yn cael ei ddewis fel y cyflenwr llwyddiannus.
Roedd yr adroddiad a gomisiynwyd gan Deloitte ar ran yr ASB yn gwerthuso’n feirniadol y Fframwaith Rheoleiddio Bwydydd Newydd (sy’n seiliedig ar Ddeddfwriaeth yr UE a Ddargedwir ar Fwydydd Newydd) ac yn nodi cyfleoedd posib ar gyfer diwygio. Roedd yr arolygiad yn ystyried tirwedd reoleiddiol y DU, a natur ddatganoledig y maes polisi, gan dynnu ar wahanol fodelau rheoleiddio rhyngwladol a safbwyntiau rhanddeiliaid.
Casglwyd profiadau a mewnwelediadau gan rai sydd wrthi’n gwneud cais a’r rhai a fydd yn gwneud cais yn y dyfodol, sectorau’r diwydiant Bwydydd Newydd arloesol a rheoleiddwyr eraill y DU a rhyngwladol o’r sectorau bwyd a sectorau nad ydynt yn ymwneud â bwyd er mwyn datblygu gwerthusiad beirniadol o’r fframwaith presennol ac i archwilio cyfleoedd ar gyfer diwygio posib. Gan fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar weithrediad technegol y fframwaith rheoleiddio, nid oedd yn cynnwys safbwyntiau defnyddwyr na buddiannau ehangach rhanddeiliaid am y tro.
Bydd unrhyw gynlluniau diwygio yn y dyfodol a ddatblygir gan yr ASB ar gyfer Bwydydd Newydd yn cynnwys ymgysylltu pellach â rhanddeiliaid, ymgysylltu â defnyddwyr ac ymgynghori â’r cyhoedd fel rhan o’r broses datblygu polisi. Mae’r ASB yn adran anweinidogol y llywodraeth sy’n cael ei llywodraethu gan Fwrdd, yn hytrach nag yn uniongyrchol gan Weinidogion. O’r herwydd, bydd Bwrdd yr ASB yn trafod ac yn penderfynu ar gynlluniau diwygio, cyn eu hargymell i Weinidogion yng Nghymru, Lloegr ac, os yw’n briodol, Gogledd Iwerddon.
Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio fel mewnbwn i gefnogi syniadau o fewn yr ASB o ran sut rydym yn dylunio model rheoleiddio ar gyfer y dyfodol, gan nodi’r cyfleoedd sy’n ei gwneud yn hawdd i fusnesau wneud y peth iawn a chael gwared ar rwystrau diangen i arloesi. Mae'r ASB a Safonau Bwyd yr Alban ar y cyd yn gyfrifol am awdurdodi Bwydydd Newydd a bydd unrhyw gynlluniau diwygio yn cael eu datblygu gan ymgynghori â’r gwledydd datganoledig. Comisiynwyd yr adroddiad gan yr ASB a’i gynhyrchu gan Deloitte. Mae’r adroddiad yn cynrychioli syniadau cychwynnol a dadansoddiadau o ran sut y gallai’r ASB symud ymlaen yn y dyfodol, gan gymharu â sectorau eraill a reoleiddir, rheolaethau bwyd rhyngwladol a rhyw faint o ymgynghori â gweithredwyr busnesau bwyd a rhanddeiliaid eraill. Nid yw’r adroddiad yn cynrychioli safbwynt swyddogol yr ASB, safbwynt polisi na chyfres o argymhellion. Mae Crynodeb Gweithredol yr adroddiad wedi’i gyhoeddi: Adolygiad o’r Fframwaith Rheoleiddio Bwydydd Newydd: Crynodeb gweithredol.
Mwy o wybodaeth
- Mae bwydydd newydd yn unrhyw fwydydd nad oes hanes sylweddol o’u bwyta yn y DU cyn mis Mai 1997 Mae angen awdurdodi bwydydd newydd cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Mae’r Fframwaith Bwydydd Newydd yn nodi’r gofynion deddfwriaethol syn ymwneud ag awdurdodi’r cynhyrchion hyn.
- O dan y trefniadau gweithredu presennol ar gyfer Gogledd Iwerddon, rhaid i awdurdodiadau newydd ar gyfer rhoi cynhyrchion bwyd newydd ar farchnad Gogledd Iwerddon barhau i ddilyn prosesau’r UE. O hydref 2023 ymlaen, bydd Fframwaith Windsor yn caniatáu i safonau iechyd cyhoeddus y DU wneud cais am nwyddau manwerthu sy’n cael eu symud ar hyd y lôn werdd bwyd-amaeth a’u gosod ar farchnad Gogledd Iwerddon. Felly, bydd nwyddau sy’n symud drwy’r llwybr hwn sy’n cynnwys bwydydd newydd awdurdodedig Prydain Fawr yn gallu cael eu rhoi ar farchnad Gogledd Iwerddon.
- Cyfeirir at ymrwymiad y Llywodraeth i’r Adolygiad o Fwydydd Newydd yn y Papur Manteision Brexit (Llywodraeth EF, Ionawr 2022: Tudalen 63).
- Fel un o asiantaethau’r Llywodraeth, mae’n ofynnol i ni gyhoeddi copi o’r contract a manylion y contract ar y safle we ‘Contracts Finder’ o fewn 30 diwrnod calendr i ddyddiad dyfarnu’r contract. Y dyddiad cychwynnol ar gyfer dyfarnu’r contract oedd 12/12/2022 a chyhoeddwyd yr hysbysiad ar ‘Contracts Finder’ ar 19/12/2022. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi Rhybudd ‘Find a Tender Awarded’ ar 19/12/2022.
Hanes diwygio
Published: 8 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Mehefin 2023