Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr wybodaeth ddiweddaraf i fusnesau ar geisiadau bwyd newydd CBD

Penodol i Gymru a Lloegr

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi rhestr dros dro o gynhyrchion CBD sydd ar werth yng Nghymru ac yn Lloegr a all aros ar y farchnad oherwydd bod cais am asesiad diogelwch wedi'i gyflwyno i'r ASB. Mae'r ceisiadau hyn wedi dechrau mynd trwy’r broses awdurdodi bwydydd newydd ac felly gallant aros ar werth hyd nes y gwneir penderfyniad ar eu hawdurdodi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 April 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 April 2021

Gall y rhestr hon o gynhyrchion CBD newid a bydd yn cael ei diweddaru bob wythnos gyda rhagor o gynhyrchion wrth i'r ASB brosesu ceisiadau. Disgwylir i'r rhestr lawn derfynol fod wedi'i chwblhau ym mis Mehefin 2021. Dylid tynnu unrhyw gynhyrchion nad ydynt yn ymddangos ar y rhestr yn ôl o'r farchnad.

Roedd cynhyrchion CBD ar y rhestr hon ar werth ar 13 Chwefror 2020 ac maent yn gysylltiedig â cheisiadau a gyflwynwyd i'r ASB cyn 31 Mawrth 2021. Rhennir y rhestr yn ddwy adran sy'n cynnwys cynhyrchion sy'n gysylltiedig â cheisiadau sydd naill ai:

  • wedi’u dilysu
  • ‘wedi’u dal yn ôl’ (on hold), gydag ymgeiswyr wedi nodi cynlluniau cadarn i gwblhau'r asesiad risg ond heb gyflenwi'r holl wybodaeth sydd ei hangen i barhau yn y broses. 

Meddai Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB:

‘Mae’r broses hon yn ymwneud â sicrhau bod y diwydiant CBD yn cydymffurfio â'r gyfraith. Mae angen i ddefnyddwyr allu ymddiried bod y cynhyrchion hyn yn ddiogel ac yn ddilys. Rhoddwyd tan ddiwedd mis Mawrth i gwmnïau gyflwyno eu ceisiadau am asesiad diogelwch. Dylai'r rhai nad ydynt wedi gwneud hyn dynnu eu cynhyrchion oddi ar y farchnad.

‘Bydd cynhyrchion ar y rhestr sydd wedi'u cysylltu â chais dilys neu gais wedi’i ddal yn ôl nawr yn destun asesiad diogelwch llawn fel y gellir gwneud penderfyniad terfynol.

‘Pan fydd y rhestr wedi'i chwblhau, gall cyflenwyr a manwerthwyr ei defnyddio i gadarnhau statws cynhyrchion penodol a gall awdurdodau lleol ei defnyddio i lywio eu penderfyniadau gorfodi.

'Nid yw'r ASB yn cymeradwyo gwerthu unrhyw un o'r cynhyrchion hyn, ni waeth a ydynt ar y rhestr ai peidio, ac nid yw eu cynnwys ar y rhestr yn gwarantu y byddant yn cael eu hawdurdodi yn y pen draw; bydd hynny'n cael ei bennu ar gryfder y dystiolaeth o ddiogelwch a gyflwynir gan y cwmnïau.’

Dilysu yw cam cyntaf y broses ar gyfer bwyd newydd. Nid yw dilysu yn golygu bod y cynhyrchion hyn yn fwydydd newydd sydd wedi’u hawdurdodi ac sy’n cael eu cadarnhau fel rhai diogel i'w bwyta, dim ond bod busnesau wedi darparu gwybodaeth ddigonol i ni i symud ymlaen â'u cais. Disgwylir i'r broses lawn ar gyfer awdurdodi bwyd newydd gymryd o leiaf blwyddyn cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Mae'r rhestr a'r canllawiau pellach ar gael yn adran canllawiau busnes ein gwefan.

Nid yw cyngor CBD i ddefnyddwyr yr ASB wedi newid. O ystyried nad yw'r cynhyrchion hyn wedi cael asesiad diogelwch llawn, rydym ni’n cynghori defnyddwyr sy’n agored i niwed i gymryd gofal: nid ydym ni’n cynghori cymryd CBD os ydych chi'n feichiog, yn bwydo o’r fron, neu'n cymryd unrhyw feddyginiaethau. Ni ddylai oedolion iach gymryd mwy na 70mg y dydd, sef tua 28 diferyn o 5% CBD, oni bai bod meddyg yn cytuno ar lefel uwch.