Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn ennill Gwobr Aur Cyflogwr Chwarae Teg
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru yw'r cyflogwr cyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr Aur Cyflogwr Chwarae Teg am ei hymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywiau a chynhwysiant yn y gweithle.
Mae’r ASB yng Nghymru wedi ennill Gwobr Aur gan brif elusen cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru, Chwarae Teg. Mae'r wobr yn cydnabod ymrwymiad parhaus yr ASB i greu gweithle cynhwysol lle gall bob aelod o’n staff ffynnu.
Mae'r Asiantaeth yng Nghymru wedi bod yn gweithio gyda Chwarae Teg dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi elwa'n fawr o'r gefnogaeth a’r cyngor adeiladol y maent yn eu cynnig fel rhan o’r Cynllun Cyflogwr Chwarae Teg. Mae'r Cynllun arloesol hefyd yn adolygu ac yn cydnabod cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chynhwysiant yn y gweithle ac yn dyfarnu sefydliadau ar bedair lefel: efydd, arian, aur a phlatinwm.
Ar ôl cyflwyno'r holl dystiolaeth angenrheidiol a chynnal arolwg ar ryw (gender) ac amrywiaeth gyda’n staff, rhagorodd yr ASB yng Nghymru ym mhob un o'r 10 maes a aseswyd, gan olygu mai dyma’r sefydliad cyntaf yng Nghymru i ennill y Wobr Aur.
Meddai Nathan Barnhouse Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru:
“Rwy’n falch iawn bod ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywiau a chynhwysiant yn cael ei gydnabod gan Chwarae Teg. Rydym ni’n angerddol dros sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac rydym ni’n ymdrechu i ddarparu gweithle cwbl gynhwysol a chefnogol i bawb.”
Meddai Sioned Fidler, Rheolwr y Gymraeg a sylfaenydd grŵp Lles yr ASB yng Nghymru:
"Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Chwarae Teg ar y Wobr Cyflogwr Aur, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio agosach gyda'r elusen wrth i ni edrych ar sut i adeiladu ar ein llwyddiant.
“Byddwn ni’n parhau i annog, galluogi ac ysbrydoli menywod i gyflawni eu gwir botensial yma yn yr ASB yng Nghymru.”