Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn lansio ymgynghoriad i helpu i ddatblygu dull cyson o labelu alergenau yn y sector ‘y tu allan i’r cartref’  

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio barn ar ganllawiau newydd ar ddarparu gwybodaeth am alergenau i bobl pan fyddant yn bwyta allan.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 October 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 October 2024

Cyhoeddir yr ymgynghoriad hwn ar sail tystiolaeth o ymchwil ac yn dilyn gwaith ymgysylltu helaeth â defnyddwyr, awdurdodau lleol a’r diwydiant a gynhaliwyd er mwyn deall yn well sut y gallai busnesau bwyd wella’r wybodaeth ysgrifenedig sydd ar gael i ddefnyddwyr â gorsensitifrwydd i fwyd.

Yn ôl y gyfraith bresennol, mae’n ofynnol i fusnesau bwyd fel bwytai, caffis a ffreuturau ddweud wrth gwsmeriaid os yw’r bwyd y maent yn ei weini yn cynnwys unrhyw un o’r 14 o alergenau y mae’n orfodol rhoi gwybod amdanynt. Gallant ddewis sut i ddarparu’r wybodaeth hon, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar.    
 
Cyngor newydd yr ASB yw y dylid sicrhau bod gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau ar gael bob amser, yn cael ei chyflwyno’n amlwg a bod pobl ag alergeddau bwyd yn cael eu hannog i siarad â’r rhai sy’n gweini’r bwyd am eu gofynion alergenau hefyd.  

Mae’r ASB yn gofyn i fusnesau bwyd, defnyddwyr ac awdurdodau lleol rannu eu barn ar y cynigion hyn drwy’r ymgynghoriad, gan helpu i lywio’r canllawiau arferion gorau yn y dyfodol.   
 
Bydd y canllawiau hyn yn cefnogi pobl sy’n byw gyda gorsensitifrwydd i fwyd, gan sicrhau eu bod yn gallu cael gwybodaeth yn y fformat sydd orau ganddynt. Bydd y canllawiau hefyd yn cefnogi busnesau bwyd i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol.   

Dywedodd Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi’r ASB:  

“Mae’n flaenoriaeth i’r ASB sicrhau y gall pobl sy’n byw gyda gorsensitifrwydd i fwyd fod yn hyderus wrth wneud dewisiadau diogel a gwybodus o ran bwyta allan, ac nad ydynt yn teimlo eu bod wedi’u cau allan rhag diwylliant bwyd gwych y wlad hon.    
   
“Rydym yn deall ei bod hi’n bwysig gwrando ar farn y gymuned hon a busnesau bwyd i sicrhau y bydd unrhyw gynigion yn y dyfodol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth am alergenau yn y sector y tu allan i’r cartref, ac ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw yn gyffredinol, yn gweithio’n ymarferol i bawb o hyn ymlaen.   
  
“Felly, rwy’n annog pobl i ymgysylltu â’r ymgynghoriad hwn. Mae’n gyfle gwych i helpu i lywio ein canllawiau arferion gorau ar gyfer darparu gwybodaeth am alergenau, sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda gorsensitifrwydd i fwyd yn ogystal â busnesau bwyd.”   
  
Gall rhanddeiliaid ymgysylltu â’r ymgynghoriad ‘Darparu Gwybodaeth am Alergenau’ yma. Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan xxx. Gellir darllen rhagor o wybodaeth am waith yr ASB ar alergenau bwyd a chanllawiau i fusnesau yma.