Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnal arolwg defnyddwyr ynghylch cyflenwi cig ac offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn rhannu arolwg defnyddwyr ynghylch cig ac offal Qurbani a gyflenwir o ladd-dai yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnod Eid al-Adha.
Bwriedir i’r arolwg gael ei gwblhau gan ddefnyddwyr yn ystod y cyfnod Qurbani, sy’n dechrau ar 28 Mehefin eleni.
Cyfeirir at Eid al-Adha hefyd fel Gŵyl yr Aberth; gŵyl Islamaidd sy’n para pedwar diwrnod, lle mae anifeiliaid yn cael eu haberthu a’u bwyta fel rhan o’r dathliad.
Mae rhai Mwslimiaid yn ffafrio casglu eu cig ac offal Qurbani cyn gynted â phosib ar ôl lladd yr anifail gan fod hyn yn nodi dechrau’r ŵyl.
Mae angen oeri cig ac offal yn unol â fframwaith cyfreithiol clir gan fod hyn yn helpu i sicrhau bod mesurau diogelu ar waith i ddefnyddwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd.
Mae’r ASB yn parchu’r ffaith bod Qurbani yn arfer grefyddol, ond nid yw casglu’r cig ac offal cyn eu hoeri’n llawn yn cyd-fynd ar hyn o bryd â fframwaith rheoleiddio’r ASB.
Bydd yr ymatebion i’r arolwg gan ddefnyddwyr o ran sut maen nhw’n casglu, yn oeri ac yn coginio’u cig Qurbani yn llywio asesiadau risg a chyngor rheoli risg yr ASB yn y dyfodol.
Dywedodd James Cooper, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi’r ASB:
“Mae’n bwysig cydnabod bod Qurbani yn weithred o bwys crefyddol i’r gymuned Fwslimaidd, a dylid ei pharchu. Dylai cig Qurbani fod ar gael i ddefnyddwyr sy’n dymuno ei baratoi a’i fwyta.
Rydym yn annog defnyddwyr sy’n cymryd rhan yn Qurbani i lenwi’r arolwg, a’r gobaith yw y bydd hyn yn helpu i ehangu’r drafodaeth i sicrhau y gall yr arfer hon barhau, a hynny wrth ofalu bod y safonau diogelwch a hylendid bwyd uchaf posib ar waith i ddiogelu defnyddwyr.”
Mae dull gweithredu newydd arfaethedig yn adeiladu ar y datganiad ar y cyd gan Is-grŵp y Gweithgor Partneriaeth Qurbani (QPWG SG) a gwaith ymgysylltu parhaus yr ASB â’r grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd hyn yn cynnwys llunio Asesiad Risg ynghylch cyflenwi cig ac offal Qurbani yn uniongyrchol.
Llenwch yr arolwg yma.