Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi’r Arolwg Gwyliadwriaeth Manwerthu diweddaraf wrth i ddull targededig newydd o arolygu bwyd barhau

Heddiw mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canlyniadau ei harolwg blynyddol sy’n helpu i fonitro risgiau o ran diogelwch bwyd sy’n dod i’r amlwg.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 February 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 February 2024

Mae’r Arolwg Gwyliadwriaeth Manwerthu wedi’i dargedu’n benodol lle rydym yn gwybod bod risg bosib, yn ogystal â lle mae angen gwaith samplu i helpu i lywio polisi a gwyddoniaeth yr ASB.

Cynhaliwyd yr arolwg ym mis Hydref 2022 ac, fel rhan o’r arolwg, samplwyd cynhyrchion o fasged nodweddiadol o fwyd, ynghyd ag amrywiaeth o fwydydd eraill.

Prynwyd samplau bwyd o archfarchnadoedd cenedlaethol a manwerthwyr annibynnol llai, a phrynwyd rhai samplau ar-lein. Profwyd y samplau am alergenau heb eu datgan, halogion, achosion o ddifwyno, cyfansoddiad anghywir neu labeli anghywir.

Dangosodd yr arolwg y canlynol:

  • roedd 96% o’r bwydydd a brofwyd o fusnesau bwyd mwy o faint yn bodloni’r gofynion rheoleiddiol ac yn cydymffurfio â’r safonau cyfreithiol y cawsant eu profi yn eu herbyn
  • yn gyffredinol, roedd 81% o’r bwydydd a brofwyd yn bodloni’r gofynion rheoleiddiol ac yn cydymffurfio â’r safonau cyfreithiol y cawsant eu profi yn eu herbyn
  • y cyfraddau dilysrwydd bwyd ar gyfer y bwydydd a brofwyd oedd 97%
  • nid oes unrhyw fannau daearyddol penodol sy’n broblemus o ran diffyg cydymffurfio

Er bod y rhan fwyaf o’r bwyd a brofwyd fel rhan o’r rhaglen samplu dargededig hon yn ddiogel ac yn ddilys, mae’r prosiect wedi tynnu sylw at rai problemau, gan gynnwys alergenau heb eu datgan mewn rhai sbeisys Affricanaidd a bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS). Nid yw’r canlyniadau hyn yn cynrychioli diogelwch bwyd yn y DU ychwaith gan fod y rhaglen samplu’n targedu cynhyrchion bwyd lle’r ydym yn gwybod bod risg, neu lle mae angen mwy o wybodaeth arnom. O’r 267 o gynhyrchion bwyd a brofwyd, dangosodd yr arolwg y canlynol:

  • roedd 16% o’r bwydydd a brofwyd am alergenau yn cynnwys alergenau heb eu datgan
  • canfuwyd bod 27% o’r sbeisys Affricanaidd a brofwyd yn cynnwys protein pysgnau heb ei ddatgan
  • roedd 17 o’r 47 o fwydydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol (PPDS) a brofwyd yn cynnwys alergenau, a hynny heb y label cywir

Nid yw’r arolwg yn rhoi tystiolaeth o’r risg gyffredinol i iechyd y cyhoedd o alergenau mewn bwyd, sy’n dal i fod heb ei newid.

Dywedodd yr Athro Rick Mumford, Dirprwy Brif Gynghorydd Gwyddonol a Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd:

“Mae’r arolwg hwn wedi’i gynllunio i helpu awdurdodau lleol i dargedu eu harolygiadau diogelwch bwyd fel y gallant ddefnyddio eu hadnoddau’n fwy effeithiol i ddiogelu defnyddwyr yn well. Mae newidiadau diweddar i’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn helpu awdurdodau lleol i ddefnyddio dull arolygu sy’n fwy seiliedig ar risg ac sy’n cael ei yrru gan wybodaeth, gan ganolbwyntio eu hamser a'u hadnoddau ar fusnesau bwyd sy’n peri mwy o risg i ddefnyddwyr.

Rydym hefyd wedi sicrhau bod rhywfaint o arian ar gael er mwyn i awdurdodau lleol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon allu samplu bwydydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol a chymysgeddau sbeisys ar gyfer alergenau, yn dilyn canlyniadau’r arolwg hwn.

Byddwn yn parhau i gynnal rhaglenni gwyliadwriaeth dargededig er mwyn nodi a chanfod risgiau sy’n dod i’r amlwg yn system fwyd y DU, a hynny er mwyn helpu i sicrhau diogelwch defnyddwyr.”

Mae’r arolwg manwerthu yn rhan o’r haenau lluosog o fesurau sydd wedi’u hymgorffori yn y system fwyd i ddiogelu defnyddwyr, sy’n cynnwys ein Model Gweithredu Safonau Bwyd newydd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae ffactor risg ‘Gwybodaeth am Alergenau’ penodol, sy’n ystyried cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran rhoi gwybodaeth am alergenau, wedi’i ychwanegu at yr asesiad risg ar gyfer busnesau bwyd. Ynghyd â’r wybodaeth o’r arolwg manwerthu, gall awdurdodau lleol gyfeirio eu hadnoddau at y meysydd sy’n peri’r risg fwyaf. Pan ganfyddir unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio, caiff y rhain eu cyfeirio at yr awdurdodau lleol perthnasol i ymchwilio iddynt a chymryd camau priodol.

Cyflawnwyd y rhaglen mewn partneriaeth gan Labordai Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol y tri awdurdod lleol a dau labordy swyddogol preifat yng Nghymru a Lloegr. Mae’r arolwg llawn ar gael yn yr adran ymchwil ar ein gwefan.