Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi ei phedwerydd Arolwg Gwyliadwriaeth Manwerthu wrth i ddull targededig o brofi bwyd barhau

Heddiw mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canlyniadau ei phedwerydd arolwg blynyddol sy’n helpu i fonitro risgiau o ran diogelwch bwyd sy’n dod i’r amlwg.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 October 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 October 2024

Mae’r rhaglen Samplu Gwyliadwriaeth Manwerthu wedi’i thargedu at feysydd risg hysbys neu bosib. Cynhaliwyd yr arolwg rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis  Ionawr 2024, a chafodd 1025 o gynhyrchion eu samplu, gan gynnwys y rhai a geir mewn basged nodweddiadol o fwyd, ynghyd ag amrywiaeth o gynhyrchion eraill. 

Prynwyd samplau bwyd o archfarchnadoedd cenedlaethol a manwerthwyr annibynnol llai, a phrynwyd rhai samplau ar-lein. Profwyd y samplau am alergenau heb eu datgan, halogion, achosion o ddifwyno, cyfansoddiad anghywir neu labeli anghywir.  

Dyma rai o ganfyddiadau'r arolwg:  

  • Bu cynnydd sylweddol mewn cydymffurfiaeth ar gyfer olew olewydd flwyddyn ar ôl blwyddyn, sef 75% yn 2022/23 i 87% (26 allan o 30) yn 2023/24
  • Roedd cyfraddau dilysrwydd bwyd ar gyfer y samplau a brofwyd yn cydymffurfio 97% ar gyfer y meysydd dilysrwydd a brofwyd
  • Nid oes unrhyw fannau daearyddol penodol sy’n broblemus o ran diffyg cydymffurfio 

Oherwydd bod yr arolwg yn targedu cynhyrchion lle rydym yn gwybod bod risg, neu lle mae diffyg gwybodaeth, nid yw’r canlyniadau’n gynrychioliadol o ddiogelwch bwyd yn y DU. Yn hytrach, maent yn helpu awdurdodau lleol i ddewis ble i dargedu eu hadnoddau, fel y gallant ddiogelu defnyddwyr. 

Er bod y rhan fwyaf o’r bwyd a brofwyd fel rhan o’r rhaglen samplu dargededig hon yn ddiogel ac yn ddilys, tynnodd y prosiect sylw at rai pryderon y mae angen ymchwilio iddynt ymhellach:

  • Nid oedd 40% (16 allan o 40) o’r cyw iâr amrwd wedi'i rewi yn cydymffurfio oherwydd gormodedd o ddŵr neu ddŵr heb ei ddatgan, neu broblemau labelu
  • Nid oedd 42% (10 allan o 24) o fyrgyrs cig eidion wedi’u rhewi yn cydymffurfio, gydag wyth sampl yn cynnwys llai o gig na’r hyn a ddatganwyd, a 4 sampl yn cynnwys lefelau o fraster uwch na’r hyn a nodwyd.

Mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) wedi rhannu canlyniadau’r samplu ar gyfer byrgyrs cig eidion a chyw iâr wedi’u rhewi â phartneriaid yn y diwydiant ac mae gwaith pellach ar y gweill i sicrhau bod y diwydiant yn wyliadwrus.

Mae’r arolwg blynyddol hwn wedi’i gynllunio i helpu awdurdodau lleol i dargedu eu harolygiadau diogelwch bwyd fel y gallant ddefnyddio eu hadnoddau’n fwy effeithiol i ddiogelu defnyddwyr yn well. 
Mae’r cynnydd mewn cydymffurfiaeth ar gyfer rhai cynhyrchion fel olew olewydd yn gadarnhaol, a byddwn yn parhau i gynnal rhaglenni gwyliadwriaeth tardegedig i nodi a dod o hyd i risgiau sy’n dod i’r amlwg yn system fwyd y DU i helpu i sicrhau diogelwch defnyddwyr.
Yr Athro Rick Mumford, Dirprwy Brif Gynghorydd Gwyddonol a Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae’r arolwg manwerthu yn rhan o’r haenau lluosog o fesurau sydd wedi’u hymgorffori yn y system fwyd i ddiogelu defnyddwyr, sy’n cynnwys ein Model Gweithredu Safonau Bwyd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ynghyd â’r wybodaeth o’r arolwg manwerthu, gall awdurdodau lleol gyfeirio eu hadnoddau at y meysydd sy’n peri’r risg fwyaf. Pan ganfyddir unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio, caiff y rhain eu cyfeirio at yr awdurdodau lleol perthnasol i ymchwilio iddynt a chymryd camau priodol.   

Cyflawnwyd y rhaglen mewn partneriaeth gan Labordai Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol y tri awdurdod lleol a dau labordy swyddogol preifat yng Nghymru a Lloegr. Mae’r adroddiad llawn ar gael yn adran ymchwil ein gwefan.