Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi adnoddau newydd er mwyn cefnogi busnesau bwyd sy’n paratoi ar gyfer newidiadau labelu alergenau

Ar 1 Hydref 2021, bydd y gyfraith o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) yn newid. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw fusnesau bwyd sy’n gwerthu bwyd PPDS gynnwys rhestr gynhwysion lawn ar label y cynnyrch gyda chynhwysion alergenaidd wedi’u pwysleisio yn y rhestr honno.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 July 2021

Daw’r newidiadau, a gyfeirir atynt hefyd fel ‘Cyfraith Natasha’, i rym ar ôl i ferch ifanc o’r enw Natasha Ednan-Laperouse farw o ganlyniad i adwaith alergaidd. Achoswyd yr adwaith gan baguette a oedd wedi’i becynnu ymlaen llaw, nad oedd angen iddo gynnwys label alergenau yr adeg honno.  

Er mwyn helpu i gefnogi busnesau bwyd, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi lansio Hwb PPDS sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys canllawiau labelu newydd ar gyfer bwydydd PPDS, yn ogystal â
chanllawiau a fydd o gymorth i sectorau penodol gan gynnwys siopau bara (bakeries), cigyddion, bwytai bwyd brys a siopau tecawê, gwerthwyr symudol, bwytai, caffis a thafarndai, ac ysgolion. Mae pob un o’r canllawiau’n darparu gwybodaeth ymarferol am PPDS a sut y gallai’r newidiadau hyn effeithio ar fusnes bwyd.

Bydd yr ASB hefyd yn cynnal gweminar ar gyfer busnesau bwyd ar 4 Awst am 2pm. Bydd y gweminar yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr a all drafod y newidiadau hyn ac ateb eich cwestiynau. Mae’r sesiwn ar agor i fusnesau ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae Sushma Acharya, Pennaeth Polisi a Strategaeth Gorsensitifrwydd i Fwyd yn yr ASB, wedi croesawu’r gefnogaeth bellach i fusnesau. Meddai:

“Uchelgais yr ASB yw sicrhau mai’r Deyrnas Unedig (DU) yw’r lle gorau yn y byd i ddefnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd, ac mae’r newidiadau o ran labelu alergenau sydd ar y gweill yn garreg filltir enfawr i bobl ag alergeddau bwyd. 

“Rydym ni’n cydnabod y bydd hyn yn effeithio’n sylweddol ar lawer o fusnesau, a gyda llai na thri mis i fynd, rydym ni am sicrhau ein bod ni’n cefnogi busnesau wrth iddyn nhw wneud y newidiadau hyn. Yn ogystal â’r canllawiau a’r adnoddau sydd ar gael, byddwn ni’n cynnal gweminar sydd wedi’i dylunio gyda busnesau bach a micro mewn golwg.”

Cofiwch gofrestru ar-lein ar gyfer y gweminar PPDS. Os na allwch chi ddod i’r gweminar, bydd recordiad ar gael ar ein gwefan.

I gael rhagor o wybodaeth am fwyd PPDS, gan gynnwys canllawiau a hyfforddiant, ewch i’r Hwb PPDS