Yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban yn cyhoeddi asesiad o droseddau bwyd yn y Deyrnas Unedig
Heddiw mae Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban (SFCIU) wedi cyhoeddi asesiad o fygythiadau troseddau bwyd i'r Deyrnas Unedig.
Mae’r Asesiad Strategol Troseddau Bwyd yn archwilio rhannau o'r gadwyn gyflenwi bwyd a allai fod yn agored i droseddau bwyd, yn ogystal â nodi bygythiadau sy'n dod i'r amlwg y mae angen mynd i'r afael â hwy.
Canfu’r asesiad fod y rhan fwyaf o droseddau bwyd yn ymwneud â dau weithgarwch eang – naill ai gwerthu rhywbeth sydd ag ychydig neu ddim gwerth i’r gadwyn fwyd fel rhai y gellir eu bwyta a’u marchnata, neu werthu bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid arferol fel cynnyrch sydd â mwy o gyfaint neu briodoleddau mwy dymunol. Yn ymarferol, gallai hyn gynnwys disodli cynhwysion â deunyddiau rhatach ac israddol, ymestyn dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ffug, neu farchnata cynhyrchion anniogel yn fwriadol fel rhai sy'n addas i'w bwyta gan bobl.
Meddai Darren Davies, Pennaeth yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd:
'Mae ein hasesiad yn dangos, er bod gan y Deyrnas Unedig (DU) rywfaint o'r bwyd mwyaf diogel a mwyaf dilys yn y byd, mae'r bygythiad gan droseddwyr yn parhau. Gall gwendidau fodoli mewn unrhyw le ar hyd y llwybr o'r fferm i'r fforc, yn y DU neu dramor.
Rydym ni wedi ymrwymo i atal a diogelu defnyddwyr a busnesau cyfreithlon rhag twyll bwyd ac rydym ni’n barod i arwain, cydlynu neu gefnogi camau gweithredu cadarn yn erbyn y rhai sy'n cyflawni'r troseddau hyn.
'Wrth i ni wynebu heriau newydd fel y pandemig COVID-19, ein nod yw creu amgylchedd gelyniaethus i'r rhai sy'n troseddu bwyd a byddwn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.'
Mae'r Uned wedi nodi meysydd gwaith â blaenoriaeth ar gyfer eleni yn ei Strategaeth Reoli. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys brwydro yn erbyn gwerthu cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwyd i'w bwyta gan bobl, atal pysgod cregyn anghyfreithlon rhag dod i mewn i'r gadwyn fwyd, a chynyddu dealltwriaeth o ddefnyddio llwyfannau ar-lein i hwyluso troseddau bwyd. Bydd yr Uned yn parhau â'i gwaith gydag awdurdodau lleol, asiantaethau gorfodi’r gyfraith a'r diwydiant bwyd i atal a diogelu rhag digwyddiadau troseddau bwyd a gweithredu pan fyddant yn digwydd.
Beth yw troseddau bwyd?
Rydym ni’n diffinio troseddau bwyd fel twyll difrifol a throseddu cysylltiedig o fewn cadwyni cyflenwi bwyd. Mae'r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys gweithgarwch sy'n effeithio ar ddiod a bwyd anifeiliaid. Gall fod yn niweidiol iawn i ddefnyddwyr, busnesau bwyd a'r diwydiant bwyd ehangach.
Beth yw'r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd?
Mae'r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn swyddogaeth benodol o fewn yr ASB ar gyfer gorfodi'r gyfraith. Mae'r Uned yn darparu arweinyddiaeth ar droseddau bwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r Uned yn gweithio'n agos gydag Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban sy’n rhan o Safonau Bwyd yr Alban.
Sefydlwyd yr Uned yn 2015 yn dilyn adolygiad o’r digwyddiad cig ceffyl yn 2013. Diben yr Uned yw diogelu defnyddwyr a'r diwydiant bwyd rhag troseddau bwyd o fewn cadwyni cyflenwi bwyd.