Yr ASB yn lansio ymgyrch i annog pob busnes bwyd newydd i gofrestru gyda’u hawdurdod lleol
Yn dilyn cynnydd yn nifer y busnesau bwyd newydd yn ystod y pandemig, heddiw rydym ni’n lansio ymgyrch sy’n gofyn i bob busnes bwyd newydd gofrestru gyda’u hawdurdod lleol.
Bu cynnydd enfawr o ran y bwyd sy’n cael ei werthu o gartrefi pobl yn ystod y pandemig Covid-19, gyda’r rhyngrwyd yn hwyluso’r math hwn o farchnad. Yn ôl ein gwasanaeth digidol Cofrestru Busnesau Bwyd, mae 37% o fentrau newydd a gofrestrwyd ers dechrau’r pandemig (Mawrth 2020) yn cael eu cynnal o geginau domestig mewn cyfeiriadau preifat.
Rydym hefyd yn gwybod nad yw llawer o’r pobl hyn sy’n gwerthu o’u cartrefi yn ystyried eu hunain yn fusnesau bwyd swyddogol, ac felly nid ydynt wedi cofrestru gyda’u hawdurdodau lleol. O ganlyniad, gallai rhai o’r gwerthwyr hyn sydd newydd sefydlu busnes bwyd yn eu cartref fod yn rhoi defnyddwyr mewn perygl oherwydd nad ydynt wedi dangos bod ganddynt wybodaeth dda am ddiogelwch bwyd.
Meddai Michael Jackson, Dirprwy Gyfarwyddwr – Pennaeth Cydymffurfiaeth Rheoleiddio yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB):
“Mae angen i awdurdodau lleol wybod am y busnesau hynny sy’n masnachu yn eu hardal, er mwyn iddynt allu rhoi’r cymorth a’r gefnogaeth iddynt sicrhau bod busnesau’n bodloni’r gofynion o ran safonau a hylendid i ddiogelu defnyddwyr o’r eiliad y maent yn dechrau masnachu.
“Os ydych chi’n coginio, storio, paratoi, gwerthu neu ddosbarthu cynhyrchion bwyd, yna rydych chi'n fusnes bwyd, ac mae angen i chi gofrestru ar unwaith.
“Mae ein cyngor yn glir. Os ydych chi'n bwriadu dechrau busnes bwyd newydd, neu’n cymryd yr awenau mewn busnes bwyd sy’n bodoli eisoes, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'ch awdurdod lleol. Mae cofrestru yn rhad ac am ddim ac mae’n hawdd ei wneud.”
Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar bob busnes bwyd i gofrestru gyda’u hawdurdod lleol, 28 diwrnod cyn iddynt agor. Mae’n drosedd peidio â gwneud hynny. Mae’n rhaid i fusnesau gofrestru p’un a ydynt yn gwerthu bwyd ar y cyfryngau cymdeithasol (Facebook Marketplace neu Instagram), yn gwerthu trwy wefannau e-fasnach fel Amazon neu eBay, yn masnachu o safle sy’n ymdrin yn uniongyrchol â chwsmeriaid, neu’n cynnal busnes bwyd o gegin gartref. Rhaid i fusnesau hefyd gofrestru gyda’r awdurdod lleol os ydynt yn cymryd yr awenau mewn busnes bwyd sy’n bodoli eisoes.
Mae cofrestru busnes bwyd yn golygu y bydd awdurdodau lleol yn ymwybodol o’r busnes a byddant yn cynnal arolygiad hylendid bwyd. Os nad yw busnes bwyd yn cofrestru, ni all awdurdod lleol asesu natur y busnes a rhoi Sgôr Hylendid Bwyd. Mae awdurdodau lleol hefyd yn rhoi cyngor i fusnesau ar sut i wella arferion hylendid bwyd a diogelwch bwyd.
Gwasanaeth digidol Cofrestru Busnesau Bwyd
Mae gwasanaeth digidol Cofrestru Busnesau Bwyd (RAFB) yr ASB wedi bod yn weithredol ers mis Medi 2018. Yn draddodiadol, roedd angen cofrestru ar bapur a’i gyflwyno â llaw i’r awdurdodau lleol ei brosesu. Cyflwynodd yr ASB y gwasanaeth ’Cofrestru Busnesau Bwyd’ i ddigideiddio hwn er budd awdurdodau lleol yn ogystal â’i gwneud yn haws i weithredwyr busnesau bwyd gofrestru a chael canllawiau defnyddiol wrth gofrestru.
Ar hyn o bryd, mae 70% o awdurdodau lleol ar draws Cymru, Lloegr, a phob Cyngor Dosbarth yng Ngogledd Iwerddon yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, ac yn ddiweddar cyraeddasom garreg filltir sylweddol: 100,000 o gofrestriadau digidol ers lansio’r gwasanaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am gofrestru busnes bwyd ar gael ar ein gwefan.