Yr ASB yn lansio rhaglen reoleiddiol arloesol ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd
Bydd y rhaglen blwch tywod, a ariennir gan Gronfa Blwch Tywod Bioleg Beirianegol yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, yn sicrhau bod cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (CCPs) yn ddiogel i ddefnyddwyr cyn iddynt gael eu gwerthu, ar yr un pryd â chefnogi arloesi yn y sector.
Bydd tîm o wyddonwyr ac arbenigwyr rheoleiddio bellach yn dechrau gweithio ar y rhaglen ddwy flynedd, gan gydweithio â chyrff academaidd, y diwydiant CCP a sefydliadau masnach. Eu nod yw casglu tystiolaeth wyddonol drylwyr am CCPs a sut y cânt eu gwneud, er mwyn llywio sut mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn rheoleiddio’r cynhyrchion hyn.
Bydd y dystiolaeth yn galluogi’r ASB i asesu ceisiadau CCP yn fwy effeithlon a gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel cyn y gellir eu gwerthu i ddefnyddwyr. Bydd yr ASB yn darparu canllawiau cliriach i fusnesau, ac yn mynd i’r afael â chwestiynau y mae’n rhaid eu hateb cyn y gall unrhyw CCPs ddod i mewn i’r farchnad. Drwy’r rhaglen, mae’r ASB wedi ymrwymo i gwblhau asesiad diogelwch llawn dau CCP o fewn y ddwy flynedd nesaf.
"Mae arloesi diogel wrth wraidd y rhaglen hon. Trwy flaenoriaethu diogelwch defnyddwyr a gwneud yn siŵr bod bwydydd newydd fel CCPs yn ddiogel, gallwn gefnogi twf mewn sectorau arloesol. Ein nod yn y pen draw yw rhoi dewis ehangach o fwyd newydd i ddefnyddwyr, ar yr un pryd â chynnal y safonau diogelwch uchaf."
“Trwy gefnogi datblygu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd yn ddiogel, rydym yn rhoi’r hyder i fusnesau arloesi ac yn cyflymu statws y DU fel arweinydd byd-eang ym maes cynhyrchu bwyd cynaliadwy.
Bydd y gwaith hwn nid yn unig yn helpu i ddod â chynhyrchion newydd i’r farchnad yn gyflymach, ond bydd hefyd yn cryfhau ymddiriedaeth defnyddwyr, gan gefnogi ein Cynllun ar gyfer Newid a chreu cyfleoedd economaidd newydd ledled y wlad.”
Heddiw, cyhoeddodd yr ASB yr wyth cwmni CCP sydd wedi’u dewis i gymryd rhan yn y rhaglen. Dewiswyd y rhain trwy broses ddethol drylwyr i gynrychioli’r ystod ryngwladol ac amrywiol o dechnolegau, prosesau a chynhwysion a ddefnyddir wrth gynhyrchu CCPs.
Y busnesau CCP sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yw Hoxton Farms (DU), BlueNalu (UDA), Mosa Meat (Yr Iseldiroedd), Gourmey (Ffrainc), Roslin Technologies (DU), Uncommon Bio (DU), Vital Meat (Ffrainc) a Vow (Awstralia).
Yn ogystal â gweithio gyda’r diwydiant CCP rhyngwladol ehangach, byddwn yn gweithio’n agos gyda phartneriaid academaidd, gan gynnwys y Ganolfan Gweithgynhyrchu Amaethyddiaeth Gellog (CARMA), y Ganolfan Arloesi Proteinau Amgen Genedlaethol (NAPIC), a Chanolfan Bezos ar gyfer Proteinau Cynaliadwy. Y corff masnach a fydd yn cynrychioli’r diwydiant ehangach fydd y Gymdeithas Proteinau Amgen (APA), a hynny ochr yn ochr â’r corff anllywodraethol, Sefydliad Bwyd Da Ewrop (GFI).