Yr ASB yn cyhoeddi cyllid o £1.4 miliwn ar gyfer lansio hyb arloesi newydd
Fel rhan o genhadaeth y Swyddfa Arloesi Rheoleiddiol (RIO) i hyrwyddo system reoleiddio sydd o blaid arloesi, mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) wedi dyfarnu £1.4 miliwn i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i gefnogi hyb arloesi newydd. Bydd yr hyb hwn yn datblygu ac yn ehangu arbenigedd wrth reoleiddio technolegau arloesol fel bwydydd wedi’u eplesu’n fanwl, gan sicrhau bod y cynhyrchion hyn yn ddiogel i’w bwyta cyn iddynt gael eu gwerthu.
Bydd y cyllid yn galluogi’r ASB ymhellach i gefnogi’r cynllun gweithredu a gyhoeddwyd gan y Canghellor (Opens in a new window) ar 17 Mawrth, gan ei grymuso i feithrin gallu a chapasiti i reoleiddio’r technolegau newydd ac arloesol hyn yn well.
Bwydydd wedi’u eplesu'n fanwl, sy'n defnyddio ffurf ddatblygedig o eplesu traddodiadol, fydd ffocws y cyllid newydd. Mae’r dechneg hon yn defnyddio technoleg newydd i greu cynhwysion penodol, gan gynnwys proteinau, siwgrau a brasterau.
Bydd yr hyb newydd yn diogelu defnyddwyr drwy wneud yn siŵr bod y bwydydd newydd hyn yn ddiogel cyn y gellir eu gwerthu, yn ogystal â rhoi mwy o eglurder ar ofynion rheoleiddiol i arloeswyr a buddsoddwyr. Bydd yn cyd-fynd â gwaith ehangach yr RIO i sicrhau bod rheoleiddio yn cefnogi ac yn aros yn gyfredol â’r datblygiadau mwyaf arloesol yn y maes. Bydd yr hyb yn dod â gwaith presennol yr ASB ar fwydydd newydd a bwyd a grëir drwy dechnoleg enetig at ei gilydd, ochr yn ochr â’r blwch tywod diweddar ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd.
Yn benodol, bydd y cyllid yn galluogi’r ASB i wneud y canlynol:
- Hybu ein gallu gwyddonol i asesu risg y cynhyrchion arloesol hyn
- Darparu mwy o eglurder rheoleiddiol i’r diwydiant ar sut i gael awdurdodiad i’r farchnad ym Mhrydain Fawr ochr yn ochr â Safonau Bwyd yr Alban, gan gynnwys trwy hyb newydd a fydd yn gronfa o ganllawiau i fusnesau.
- Cefnogi arloesedd ehangach mewn bwyd trwy wella gallu rheoleiddio ar y cynhyrchion mwyaf arloesol.
Dywedodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:
“Rydym yn falch o sicrhau’r cyllid ychwanegol hwn er mwyn gallu cynnal asesiadau risg o gynhyrchion arloesol yn gyflymach, heb gyfaddawdu ar ddiogelwch bwyd.
Mae yna ddiddordeb cynyddol ym mhotensial technolegau newydd i gynyddu diogelwch bwyd y DU a darparu bwyd fforddiadwy, iach a chynaliadwy.
Bydd y prosiect newydd pwysig hwn yn rhoi mwy o gefnogaeth i arloeswyr wrth lywio’r rheoliadau yr ydym yn eu defnyddio i asesu a yw bwyd yn ddiogel, gan wneud y system yn fwy effeithlon a galluogi cynhyrchion diogel i ddod i’r farchnad yn gyflymach.
Gall y cyhoedd barhau’n hyderus bod y bwydydd y maen nhw’n eu dewis yn ddiogel a gall economi’r DU elwa ar fuddsoddiad gan y byd busnes, felly fel cenedl byddwn yn gallu manteisio’n gynnar ar y potensial y mae’r technolegau hyn yn ei gynnig.”
Dywedodd yr Arglwydd Vallance, y Gweinidog Gwyddoniaeth:
“Mae gan ddatblygiadau arloesol mewn eplesu manwl y potensial i dyfu ein heconomi a gwella diogelwch bwyd trwy leihau dibyniaeth ar fewnforion. Bydd y Swyddfa Arloesi Rheoleiddiol yn helpu i ddod â datblygiadau arloesol fel hyn i’r farchnad yn ddiogel ac yn effeithlon.
Rydyn ni’n symleiddio prosesau rheoleiddio er mwyn cael cynnyrch diogel, arloesol ar y silffoedd yn gyflymach Ar yr un pryd, rydyn ni’n cynnal safonau uchel ac yn cryfhau safle’r DU o ran technoleg bwyd – sydd, yn ei dro, yn cefnogi Cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer Newid."
Trafodwyd y prosiect newydd hwn yn ystod cyfarfod diweddaraf Bwrdd yr ASB ar 26 Mawrth fel rhan o gyfres o fentrau y mae’r ASB yn gweithio arnynt i helpu i ysgogi twf a buddsoddiad, wrth gynnal diogelwch a safonau uchel yn sector bwyd y DU. Clywodd y Bwrdd sut mae’r prosiect newydd hwn yn cyd-fynd ag ymrwymiadau eraill yr ASB sydd wedi'u cynnwys yng nghynllun gweithredu’r llywodraeth (Opens in a new window). Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cefnogi busnesau’r DU i fodloni gofynion rheoleiddiol yr UE ar gyfer plastig wedi’i ailgylchu gradd bwyd, drwy gymryd rôl newydd fel yr awdurdod cymwys
- Sefydlu blwch tywod rheoleiddiol ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (CCPs). Bydd yr ASB yn cynnig eglurder i’r diwydiant ar ofynion diogelwch a chyfreithiol i alluogi’r cynhyrchion hyn i gael eu hystyried ar gyfer eu gwerthu
- Cyflwyno dull newydd o gynnal arolygiadau safonau bwyd ar draws pob awdurdod lleol yn Lloegr ac ymgynghori ar ddulliau newydd o reoli hylendid bwyd
- Cynyddu ein cefnogaeth i fasnach drwy weithio gyda Defra ar chwe archwiliad rhyngwladol o safonau’r DU, gan helpu allforwyr bwyd y DU i gael mynediad i farchnadoedd newydd a pharhau i fasnachu mewn marchnadoedd presennol.