Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Ymchwiliadau parhaus yn arwain at alw rhagor o gynhyrchion mwstard yn ôl yn y DU oherwydd halogiad â physgnau

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi parhau i weithio gyda busnesau bwyd ac awdurdodau lleol i ymchwilio i gynhwysion mwstard yn y gadwyn cyflenwi bwyd a allai fod wedi’u halogi â physgnau. Gallai hyn beri risg ddifrifol, yn enwedig i bobl ag alergedd difrifol i bysgnau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

O ganlyniad i ymchwiliadau helaeth a pharhaus, mae’r busnes bwyd FGS Ingredients Limited, sy’n mewnforio mwstard i gynhyrchu cynhyrchion sbeis gan gynnwys powdr cyri, sesnin a chymysgeddau sbeis o India, wedi cymryd y cam rhagofalus o dynnu a galw’n ôl ei holl gynhyrchion sy’n cynnwys mwstard.

Mae’r sbeisys a’r cyfuniadau hyn hefyd yn cael eu defnyddio mewn cynhyrchion fel prydau parod a byrbrydau, ac rydym yn disgwyl cyhoeddi ystod eang o hysbysiadau ‘galw cynnyrch yn ôl’ yn ystod y dyddiau nesaf. Er bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo, gallwn gadarnhau bod y mater dan sylw yn effeithio ar y cynhyrchion hyn a gyflenwir gan FGS Ingredients Limited yn unig, ac nid yr holl fewnforion mwstard o India.

Rydym yn parhau i gynghori pobl sydd ag alergedd i bysgnau i osgoi bwyta unrhyw fwyd sy’n cynnwys cynhwysion mwstard nes bod yr holl hysbysiadau ‘galw cynnyrch yn ôl’ wedi’u cyhoeddi, a byddwn yn rhoi diweddariad ar y cyngor hwn pan fydd yn newid.

Dywedodd Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi’r ASB:

“Mae hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad cymhleth, ac rydym yn parhau i weithio gydag FSS, busnesau perthnasol, awdurdodau lleol, ac asiantaethau i sicrhau bod y mesurau angenrheidiol ar waith i ddiogelu defnyddwyr.

“Wrth i’n hymchwiliadau barhau, mae ein cyngor yn aros yr un fath: dylai pobl ag alergedd i bysgnau barhau i osgoi bwyta pob cynnyrch bwyd sy’n cynnwys neu a allai gynnwys mwstard, hadau mwstard, powdr mwstard neu flawd mwstard.

“Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod yr holl gynhyrchion yr effeithir arnynt wedi’u tynnu a’u galw’n ôl. Unwaith y bydd hyn wedi digwydd, rydym yn hyderus y byddwn mewn sefyllfa i ddileu’r cyngor ychwanegol hwn i ddefnyddwyr, fel y gallant barhau i fwynhau bwyd sy’n ddiogel ac ymddiried bod label a gwybodaeth y cynnyrch yn adlewyrchu’r cynnwys alergenaidd yn gywir. Hyd nes y bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig iawn bod pobl ag alergedd i bysgnau yn parhau i osgoi unrhyw gynnyrch sy’n cynnwys mwstard neu gynhwysion mwstard.

“Rwy wir yn annog defnyddwyr â gorsensitifrwydd i fwyd i gofrestru ar gyfer ein rhybuddion alergedd er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynhyrchion sy’n cael eu galw’n ôl yn y dyfodol. Bydd yr hyb gwybodaeth pwrpasol yn parhau i gael ei ddiweddaru pan fydd mwy o wybodaeth ar gael.”

Os oes unrhyw un wedi cael adwaith alergaidd a allai fod yn gysylltiedig â’r ymchwiliad hwn, rhowch wybod i’r busnes bwyd a gyflenwodd y cynnyrch dan sylw, ac i’r awdurdod lleol lle prynwyd y cynnyrch. Mae canllawiau ar gael ar sut i roi gwybod i awdurdod lleol am broblem bwyd.

Mae mwy o wybodaeth, gan gynnwys dogfen holi ac ateb, ar gael yn ein canllawiau diweddaraf i ddefnyddwyr.