Y Cyngor Gwyddoniaeth yn lansio ymgynghoriad ar safonau ar gyfer tystiolaeth trydydd parti
Mae Cyngor Gwyddoniaeth annibynnol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal ymgynghoriad ar ei egwyddorion a'i ganllawiau drafft yn amlinellu'r safonau a ddisgwylir pan ddaw tystiolaeth ddigomisiwn i law y tu allan i'n prosesau safonol.
Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl bolisïau, penderfyniadau a chyngor yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r dadansoddiad gwyddonol gorau sydd ar gael, o ystod o wahanol ffynonellau. Nod yr egwyddorion a'r canllawiau yw crynhoi disgwyliadau ar gyfer safon y dystiolaeth a anfonir atom gan drydydd partïon sydd y tu allan i brosesau safonol, ac amlinellu'r ffordd y bydd y dystiolaeth honno'n cael ei hasesu.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am bedair wythnos rhwng 22 Mawrth 2021 a 22 Ebrill 2021.
Ymateb i ymgynghoriad y Cyngor Gwyddoniaeth
Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a rhannu eich barn, ewch i wefan Cyngor Gwyddonaieth yr ASB.
Sylwch fod yn rhaid dilyn prosesau penodol ar gyfer awdurdodi cynhyrchion wedi’u rheoleiddio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau gwe ar roi cynnyrch wedi’i reoleiddio ar y farchnad.