Uchafbwyntiau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Trafodaethau ar gynhyrchion rheoleiddiedig a chlefydau a gludir gan fwyd
Diweddariad ar Ddiwygio Cynhyrchion Rheoleiddiedig
Cynhaliwyd cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddydd Mercher 20 Mawrth i ystyried newidiadau arfaethedig i’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig (RPS). Roedd hyn yn dilyn cytundeb gan y Bwrdd yn 2023 y byddai’r ASB yn datblygu cynlluniau i wella’r system bresennol, er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn cael mynediad cyflymach at ddewis ehangach o gynhyrchion diogel ac arloesol.
Mae angen i rai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid, a elwir yn gynhyrchion rheoleiddiedig, gael eu hawdurdodi cyn y gellir eu gwerthu yn y DU. Maent yn cael eu hasesu i wirio eu bod yn ddiogel cyn cael eu rhoi ar farchnad y DU. Er mwyn gwneud hyn, bydd yr ASB, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, yn cynnal proses dadansoddi risg ac yn darparu cyngor i weinidogion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a fydd yn penderfynu a ellir gwerthu’r cynnyrch. Etifeddwyd y broses awdurdodi bresennol gan yr UE, ac mae Bwrdd yr ASB wedi cytuno y bydd angen gwneud newidiadau sylweddol er mwyn sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n gallu ymdopi â chyflymder arloesi yn y diwydiant bwyd.
Roedd y Bwrdd yn cefnogi dau gynnig ar gyfer diwygio deddfwriaethol a fyddai’n helpu i symleiddio’r broses awdurdodi. Y cynnig cyntaf yw cael gwared ar y gofyniad bod yn rhaid i rai cynhyrchion a awdurdodwyd yn gynhyrchion diogel yn flaenorol fynd trwy broses ail-awdurdodi o bryd i’w gilydd, p’un a yw’r dystiolaeth ar ddiogelwch wedi newid ai peidio. Mae’r ail gynnig yn newid arfaethedig i ganiatáu i awdurdodiadau ddod i rym drwy gofrestr swyddogol, yn hytrach na thrwy is-ddeddfwriaeth. Cytunodd y Bwrdd na fyddai’r newidiadau’n peryglu diogelwch defnyddwyr.
Cymeradwyodd y Bwrdd rai gwelliannau gweinyddol pellach y gellir eu gwneud i’r system bresennol yn gyflym. Bydd hyn o fudd uniongyrchol i ddefnyddwyr a busnesau drwy leihau’r amser y mae’n ei gymryd i adolygu, ac o bosib, awdurdodi cynhyrchion newydd. Roedd y Bwrdd hefyd yn awyddus i symud yn gyflym gyda newidiadau mwy sylfaenol i’r system bresennol, gan ofyn i gynlluniau pellach ar gyfer y diwygiad tymor hwy hwn gael eu cyflwyno i gyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin 2024.
Eglurodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB, y bydd y newidiadau a gynigir yn sicrhau canlyniadau gwell i ddefnyddwyr yn y dyfodol. Wrth fyfyrio ar y drafodaeth, dywedodd yr Athro Jebb:
Mae hwn yn gyfle enfawr i’r ASB ysgogi buddion i ddefnyddwyr drwy alluogi rhoi cynhyrchion newydd ac arloesol yr ydym yn asesu eu bod yn ddiogel ar y farchnad yn gyflymach. Bydd yn gosod ffordd newydd o wneud pethau, a bydd gan rheoleiddwyr ledled y byd ddiddordeb gwirioneddol.
Yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin, rydym yn disgwyl gweld cynigion manwl ar gyfer y camau nesaf, gan gynnwys sut y gallai’r ASB ddefnyddio safbwyntiau rheoleiddwyr eraill ymhellach wrth asesu risgiau, ac amlinelliad o strwythur hirdymor posib y Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r ASB ac yn gyfle gwirioneddol i ni wneud gwahaniaeth.
Yn amodol ar gytundeb gweinidogol, bydd yr ASB yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn ar y ddau newid arfaethedig cyntaf – dileu’r gofyniad i adnewyddu a chaniatáu i awdurdodiadau ddod i rym drwy gofrestr swyddogol. Bydd unrhyw bartïon â buddiant, gan gynnwys defnyddwyr a’r diwydiant, yn cael eu gwahodd i ymateb fel y gallwn gasglu safbwyntiau ar yr effeithiau posib, y buddion, y risgiau a’r heriau sy’n gysylltiedig â’r newidiadau. Yna, bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried a byddant yn llywio cynigion terfynol i weinidogion yn yr haf.
Polisi clefydau a gludir gan fwyd
Mae clefydau a gludir gan fwyd yn rhan greiddiol o waith yr ASB, sy’n gofyn am wyliadwriaeth gyson i helpu i leihau’r risg i ddefnyddwyr. Cafodd y Bwrdd drosolwg o glefydau a gludir gan fwyd yn y DU a sut mae’r ASB a sefydliadau eraill ar draws y gadwyn fwyd yn lliniaru’r risgiau cysylltiedig.
Mewn ymateb i adroddiadau diweddar yn y cyfryngau am gynnydd o ran unigolion yn mynd i’r ysbyty oherwydd gwenwyn bwyd, esboniodd yr Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB, fod llai o bobl bellach yn mynd i’r ysbyty ar gyfer clefyd gastroberfeddol na chyn y pandemig Covid. Fodd bynnag, mae’r broses well o ran profi wedi arwain at fwy o achosion yn cael eu priodoli i bathogenau penodol fel Salmonela neu Campylobacter, yn hytrach na pheidio â chael diagnosis.
Tynnodd yr Athro May sylw hefyd at y ffaith bod cyfran y cleifion a gafodd ddiagnosis o haint Salmonela neu Campylobacter a oedd yn cael eu trin yn yr ysbyty wedi cynyddu dros yr un cyfnod. Gall rhesymau posib gynnwys newidiadau yn y dull profi, poblogaeth sy’n heneiddio sydd mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael, neu bobl yn aros yn hirach cyn ceisio cymorth clinigol ac felly’n cael heintiau mwy datblygedig ar adeg y diagnosis. Ond pwysleisiodd yr Athro May fod angen mwy o ddata i ddeall y rhesymau dros y cynnydd ymddangosiadol hwn o ran y tebygolrwydd o fynd i’r ysbyty.
Mae’n bwysig deall nad yw cynnydd mewn haint penodol o bathogen o reidrwydd yn arwydd o newid yn y clefyd yn gyffredinol.
Mae angen i ni wybod mwy am achos yr afiechyd – boed hynny o fwyd neu o drosglwyddiadau eraill fel anifail i berson neu berson i berson – fel y gallwn wneud ein gorau i leihau’r afiechydon.