Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Person wedi’i arestio yng Nghymru yn dilyn ymchwiliad yr ASB i droseddau bwyd

Penodol i Gymru a Lloegr

Mae’r arestiad yng Nghymru yn rhan o ymchwiliad ehangach gan Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i gig sydd dan amheuaeth o fod yn anghyfreithlon ac yn anniogel

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Gwnaeth swyddogion yr NFCU, ynghyd â Heddlu Dyfed-Powys, ymweld â fferm yng Nghymru ddydd Mercher 4 Rhagfyr ac arestio un dyn.  

Mae’r arestiad hwn yn gysylltiedig â phum arestiad blaenorol a wnaed yn Llundain ddydd Llun 25 Tachwedd 2024, a hynny mewn cysylltiad ag atafaeliadau o gig a oedd dan amheuaeth o fod yn anghyfreithlon. 

Cafodd y dyn ei gyfweld gan swyddogion yr NFCU, ac mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.

“Gwnaeth swyddogion o’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd, a oedd yn gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys, arestio dyn 52 oed o Orllewin Cymru ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cig anaddas. Roedd hyn yn rhan o ymchwiliad i gig a oedd dan amheuaeth o fod yn anghyfreithlon ac yn anniogel. 

Mae ‘smokies’ yn broblem diogelwch bwyd gan nad ydynt yn cael eu cynhyrchu o dan amodau hylan, ac maen nhw’n anghyfreithlon oherwydd bod y cig yn dal i gynnwys y croen ac nad oes modd ei olrhain. Rydym yn cynghori pobl i gadw’n glir o gig dafad a gynhyrchir drwy’r dull hwn gan y gallai beri risg i iechyd. Dylent gysylltu â’u tîm Safonau Masnach lleol neu’r ASB os ydynt yn amau bod ‘smokies’ yn cael eu cynhyrchu neu eu gwerthu.  

Os byddwn yn dod o hyd i unrhyw fwyd anniogel ar y farchnad, byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’r cyhoedd. Os ydych yn amau troseddau bwyd, rhowch wybod i’r tîm Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol. Maen nhw bob amser ar gael ar food.gov.uk neu drwy ffonio 0800 028 1180."

Neil Castle, Dirprwy Bennaeth NFCU yr ASB