Penodi Aelod Bwrdd dros Gymru
Mae Dr Rhian Hayward MBE wedi’i phenodi’n Aelod Bwrdd dros Gymru ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi bod Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Llesiant, wedi penodi Aelod Bwrdd newydd dros Gymru. Bydd Rhian Hayward MBE yn gwasanaethu am dair blynedd, gan ddechrau ar 1 Medi 2023 a bydd hefyd yn ymgymryd â rôl Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC).
Dywedodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:
“Mae’n bleser croesawu Rhian i Fwrdd yr ASB. Bydd yn dod â chryn wybodaeth a phrofiad i’r Bwrdd ac i WFAC, gyda dealltwriaeth ddofn o’r strwythurau datganoledig y mae’r ASB yn gweithredu oddi mewn iddynt. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Rhian wrth i ni barhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chyflawni ein cenhadaeth, sef ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’.”
Mae gyrfa Dr Hayward wedi cwmpasu gwyddoniaeth ac arloesi. Yn ogystal â bod yn Is-Gadeirydd Cymdeithas Parciau Gwyddoniaeth y DU, mae hi wedi gweithio mewn swyddi cyhoeddus i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gwasanaethu ar Fwrdd Datblygu Diwydiannol Cymru a Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod.
Yn wreiddiol o Abertawe, mae Dr Hayward bellach yn Brif Weithredwr AberInnovation, gan annog ymchwil gydweithredol rhwng busnesau, entrepreneuriaid ac academyddion. Mae ganddi DPhil mewn epidemioleg clefydau heintus o Brifysgol Rhydychen a BSc dosbarth cyntaf o Goleg y Brenin Llundain ac mae’n un o Gymrodorion Sefydliad y Cyfarwyddwyr. Derbyniodd Rhian yr MBE am wasanaethau i Entrepreneuriaeth yng Nghymru yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016.
Dywedodd Dr Rhian Hayward:
“Rwy’n falch iawn o gael ymuno â Bwrdd yr ASB a chefnogi eu gwaith pwysig yn diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Rwy’n llawn brwdfrydedd ac yn barod i ymroi i’r rôl o gynghori ar faterion sy’n ymwneud â Chymru a chynrychioli buddiannau Cymru.”
Dywedodd Peter Price, Cyn-aelod Bwrdd yr ASB dros Gymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru:
“Rwy’n falch iawn o gael trosglwyddo’r awenau i Rhian, sydd â chyfoeth o brofiad perthnasol. Yn ogystal â gwybodaeth wyddonol eang, mae Rhian yn arwain datblygiadau yn niwydiant bwyd Cymru. Bydd hi’n hyrwyddo ac yn diogelu buddiannau Cymreig, gan gefnogi defnyddwyr a ffermwyr, cynhyrchwyr ac arloeswyr.”
Bydd y penodiad hwn yn golygu ymrwymiad amser o 35 diwrnod y flwyddyn, a bydd tâl am y rôl ar gyfradd o £14,000 y flwyddyn. Gwnaed y penodiad hwn ar sail teilyngdod, gan ddilyn Cod Ymarfer Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.
Bydd Dr Hayward yn cadeirio ei chyfarfod WFAC cyntaf ar 25 Hydref.