‘Peidiwch â chymryd y risg’: Neges atgoffa gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Safonau Bwyd yr Alban ac UKHSA na ddylid bwyta amrywiaeth o gynhyrchion wyau Kinder a Schoko-Bon’s dros gyfnod y Pasg
Dros gyfnod y Pasg, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig (UKHSA) yn atgoffa pobl unwaith eto na ddylid bwyta amrywiaeth o gynhyrchion Kinder Egg a Schoko-Bon’s.
Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon – yn ogystal ag awdurdodau iechyd cyhoeddus a diogelwch bwyd rhyngwladol – i ymchwilio i frigiad o achosion (outbreak) parhaus o Salmonela sy’n gysylltiedig ac amryw gynhyrchion wyau Kinder a Schoko-Bons a gynhyrchwyd yn un o ffatrïoedd cwmni Ferrero, yn Arlon, Gwlad Belg.
Mae manylion llawn y cynhyrchion yr effeithiwyd arnynt a’r rhybudd galw’n ôl i’w gweld yma.
Yn ôl 15 Ebrill, mae 70 o achosion yn gysylltiedig â’r brigiad o achosion hwn yn y DU. Mae mwyafrif yr achosion ymhlith plant dan 5 oed.
Meddai Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB:
“Gan ei bod hi’n gyfnod y Pasg, rydym yn annog defnyddwyr yn gryf i ddilyn y cyngor yn yr hysbysiad galw’n ôl diweddaraf ac i wirio unrhyw gynhyrchion Kinder y gallent fod wedi’u prynu eisoes yn erbyn y rhestr a nodir yn yr hysbysiad, gan y gallent beri risg i iechyd. Os oes ganddynt unrhyw gynhyrchion sydd ar y rhestr, ni ddylent eu bwyta a dylent eu taflu i ffwrdd ar unwaith.
“Rydym ni wedi pwysleisio i’r busnes a’r awdurdodau yng Ngwlad Belg pa mor bwysig yw defnyddio dull rhagofalus wrth alw’r cynhyrchion yn ôl ac rydym ni’n hyderus y byddant yn parhau i roi anghenion defnyddwyr yn gyntaf mewn unrhyw gamau y maent yn eu cymryd."
Meddai’r Fonesig Jenny Harries, Prif Weithredwr Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA):
“Rydym yn atgoffa pobl o’r rhybudd galw’n ôl hwn gan ei bod yn bosibl bod y nwyddau hyn wedi’u prynu a’u storio fel anrhegion, neu ar gyfer digwyddiadau fel helfa wyau’r Pasg.
“Mae'n hanfodol nad yw'r cynhyrchion hyn yn cael eu bwyta a’u bod yn cael eu taflu i ffwrdd. Gall haint Salmonela fod yn ddifrifol ac mae llawer o blant yr effeithiwyd arnynt yn yr achos hwn wedi bod yn sâl iawn ac yn gorfod mynd i’r ysbyty, felly dylai unrhyw un sy’n rhoi nwyddau siocled i ffrindiau neu deulu fod yn arbennig o ofalus i sicrhau nad yw eu hanrhegion Pasg yn cynnwys y cynhyrchion hynny sy’n cael eu galw’n ôl.
“Diolch i rieni, gwarcheidwaid ac awdurdodau iechyd cyhoeddus eraill yn y DU a weithiodd gyda ni i ddweud wrthym beth roedd eu plant wedi’i fwyta cyn mynd yn sâl – fe wnaeth hyn ein galluogi i nodi ffynhonnell bosib haint yn gyflym a bu’n gymorth i ymchwiliadau i’r gadwyn fwyd yn y wlad hon ac yn Ewrop. Rydym yn deall bod hwn wedi bod yn gyfnod pryderus i’r teuluoedd hyn, ac mae eu hymatebion wedi helpu i atal rhagor o blant ac oedolion sy’n agored i niwed rhag cael eu heffeithio.”
Mae symptomau salmonelosis – neu haint â salmonela – fel arfer yn gwella heb driniaeth o fewn ychydig ddyddiau. Fodd bynnag, gall symptomau fod yn fwy difrifol, yn enwedig ymhlith plant ifanc, y rheiny sy’n feichiog a'r rhai â systemau imiwnedd gwan.
Dylai unrhyw un sy’n pryderu bod ganddynt symptomau salmonelosis gysylltu â’u meddyg teulu neu ffonio GIG 111.” Gall salmonela gael ei ledaenu o berson i berson yn ogystal â gan fwyd, felly dylai unrhyw un yr effeithir arnynt sydd â symptomau ddilyn arferion hylendid da fel golchi dwylo’n drylwyr ar ôl defnyddio’r ystafell ymolchi ac osgoi trin bwyd i eraill, lle bo’n bosibl.
Nodiadau i Olygyddion:
Mae’r cynhyrchion canlynol wedi’u galw'n ôl a waeth beth fo’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’. Ni ddylid eu bwyta.
Mae’r rhybudd yn cynnwys:
Kinder Surprise 20g & 3x 20g
Kinder Surprise 100g
Kinder Egg Hunt
Kinder Mini Eggs
Kinder Schoko-Bons