Mae’r ASB ac FSS yn cyhoeddi asesiad strategol i gefnogi busnesau ac amddiffyn defnyddwyr rhag twyll bwyd
Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi cyhoeddi eu Hasesiad Strategol o Droseddau Bwyd 2024.
Mae’r adroddiad wedi canfod bod y rhan fwyaf o fwyd yn y DU yn ddiogel ac yn ddilys, ond mae ffactorau fel digwyddiadau geowleidyddol diweddar wedi achosi aflonyddwch yn y gadwyn fwyd sydd, yn ei dro, wedi cyfrannu at y newid yn y bygythiad o droseddau bwyd. Dyma rai o’r prif ganfyddiadau:
- mae cyflenwad bwyd y DU wedi profi aflonyddwch, gyda chyfleoedd newydd ar gyfer arallgyfeirio troseddol
- mae mwy yn hysbys am yr unigolion sy’n ymwneud â throseddu o fewn cadwyni cyflenwi bwyd
Mae’r adroddiad yw cyflwyno dadansoddiad y sefydliad o’r bygythiad sy’n wynebu’r DU gan droseddwyr sy’n ceisio elwa ar dwyll difrifol o fewn y gadwyn fwyd. Fe’i rhennir ag awdurdodau lleol, partneriaid y llywodraeth a diwydiant i lywio gwaith ar y cyd yn well i ddiogelu busnesau a defnyddwyr cyfreithlon rhag y bygythiad hwn.
Dywedodd Andrew Quinn, Pennaeth Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr ASB:
“Rydym yn hyderus bod y rhan fwyaf o fwyd y DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, ond mae hyd yn oed lefelau bach o dwyll bwyd yn annerbyniol. Rydym o’r farn bod lefelau twyll bwyd yn isel, ond mae’r risgiau’n newid, a dyna pam rydym wedi gweithio gydag FSS i ddatblygu a chyhoeddi’r Asesiad Strategol Troseddau Bwyd heddiw.
Busnesau bwyd yw’r amddiffyniad cyntaf o ran sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn ddilys; mae’r Asesiad Strategol Troseddau Bwyd yn annog busnesau bwyd i adnabod eu cadwyn gyflenwi a rheoli risgiau twyll ynddynt. Rydyn ni’n rhannu’r hyn sydd angen iddyn nhw gadw llygad amdano ac rydyn ni’n annog busnesau i fanteisio ar ein cymorth rhad ac am ddim.Y mwyaf rydym yn ei wybod am droseddau bwyd, y gorau y gallwn ni fynd i’r afael â nhw ar y cyd â’r diwydiant ei hun a’n partneriaid Awdurdod Lleol i ddiogelu busnesau a defnyddwyr cyfreithlon.”
Dywedodd Ron McNaughton, Pennaeth Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban yn FSS:
“Yn y pedair blynedd ers ein hasesiad strategol diwethaf, mae cyflenwad bwyd y DU wedi wynebu aflonyddwch sylweddol, gan greu cyfleoedd newydd ar gyfer gweithgarwch troseddol. Mae’r adroddiad diweddaraf hwn yn amlinellu bygythiadau troseddau bwyd allweddol ac yn amlygu risgiau sy’n dod i’r amlwg o fewn systemau bwyd oherwydd ffactorau allanol.
Mae mynd i’r afael â throseddau bwyd yn gofyn am gydweithio parhaus ar draws cyrff rheoleiddio, gorfodi'r gyfraith, a diwydiant, gyda gwybodaeth, data a phrofiad a rennir yn parhau i fod yn hanfodol i’r asesiad hwn ac i fynd i’r afael â throseddau bwyd yn effeithiol."
Mae’r asesiad yn archwilio’r ystod o ffactorau y credir eu bod yn dylanwadu ar y dirwedd troseddau bwyd, troseddwr sy’n costio hyd at £2biliwn y flwyddyn i’r DU, yn ogystal â rhannu beth yw’r bygythiadau allweddol yn y darlun cudd-wybodaeth. Gall ffactorau gan gynnwys digwyddiadau geowleidyddol yn ogystal â phwysau economaidd effeithio ar y saith math gwahanol o droseddau bwyd, sef: twyll dogfennau, lladrad, dargyfeirio gwastraff prosesu anghyfreithlon yn ogystal ag amnewid, camgyfleu a difwyno.
Gall pawb yn y system fwyd ddefnyddio’r asesiad i’w cynorthwyo yn y camau y maent yn eu cymryd i atal, canfod ac atal troseddwyr a fyddai’n ceisio elwa ar dwyllo defnyddwyr a busnesau.
I gael rhagor o wybodaeth am waith yr NFCU, sy’n cynnwys Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ewch i wefan yr ASB. I gael gwybodaeth am waith SFCIU, sy’n cwmpasu’r Alban, ewch i wefan FSS.