Lansio ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i’r broses awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn ceisio safbwyntiau ar ddau newid arfaethedig i’r broses awdurdodi ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig. Bydd y newidiadau hyn yn ein helpu i fod yn gyson ag arloesedd yn y diwydiant bwyd, gan roi dewis gwell o fwyd diogel i ddefnyddwyr.
Mae angen i rai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a elwir yn gynhyrchion rheoleiddiedig, sy’n cynnwys ychwanegion a chyflasynnau bwyd, gael eu hawdurdodi i nodi eu bod yn ddiogel cyn y gellir eu gwerthu. Er mwyn gwneud hyn, mae’r ASB ac FSS yn cynnal proses dadansoddi risg gadarn ac yn darparu cyngor i weinidogion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, sydd wedyn yn penderfynu a ellir gwerthu’r cynnyrch.
Gwnaeth y DU etifeddu’r broses awdurdodi bresennol gan yr UE, ac mae’n amlwg bod angen newidiadau sylweddol i foderneiddio’r system. Ein nod yw sicrhau manteision i ddefnyddwyr trwy gynnig dewis ehangach o fwyd diogel, gan ei gwneud yn bosib i gynhyrchion newydd, arloesol ddod i’r farchnad yn gyflymach.
Mae’r ymgynghoriad ar y cyd, a lansiwyd heddiw, yn manylu ar ddau newid arfaethedig i’r broses. Daw hyn yn sgil gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymeradwyaeth i’r cynigion gan Fyrddau’r ASB ac FSS.
Mae’r ASB ac FSS eisiau creu Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig modern a symlach a fydd yn cynnig manteision i ddefnyddwyr. Rydym yn gweithio’n galed i wella’r system bresennol, ond mae’n amlwg bod angen rhoi mwy fyth o newidiadau ar waith.
Mae’r ddau gynnig y manylir arnynt yn yr ymgynghoriad yn rhai y gellir eu cyflawni’n gyflym, er mwyn helpu i symleiddio’r system. Bydd y newidiadau yn gwella’r broses o awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig, gan ein helpu i sicrhau gwasanaeth mwy effeithlon. Ni fydd hyn yn lleihau diogelwch na safonau bwyd mewn unrhyw ffordd
Hoffai’r ASB ac FSS glywed safbwyntiau partïon â buddiant ar yr effaith, y manteision a’r heriau posib sy’n gysylltiedig â’r ddau newid arfaethedig. Bydd safbwyntiau’n cael eu hystyried, a byddant yn helpu i lywio ein cyngor i weinidogion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Rydym yn disgwyl y gallwn ddarparu’r cyngor hwn yn yr haf.
Dyma’r ddau ddiwygiad:
- Dileu’r gofyniad i adnewyddu awdurdodiadau: Dileu’r gofyniad i rai cynhyrchion sydd eisoes wedi’u hawdurdodi fel rhai diogel fynd drwy broses ail-awdurdodi bob 10 mlynedd, p’un a yw’r dystiolaeth ar ddiogelwch wedi newid ai peidio. Ceisiadau adnewyddu yw oddeutu 22% o’r llwyth achosion presennol, a disgwylir i hyn gynyddu i fwy na 50% erbyn 2027. Heb ddiwygio’r system, bydd yr achosion hyn yn rhoi straen sylweddol ar y gwasanaeth, gan ganolbwyntio adnoddau ar gynhyrchion sydd wedi’u defnyddio’n ddiogel ers blynyddoedd lawer a lle, yn y mwyafrif o achosion, nad ydym yn rhagweld unrhyw newid mewn risg. Mae’r holl geisiadau adnewyddu hyd yma wedi’u cymeradwyo. Mae gan yr ASB ac FSS bwerau eisoes i fonitro tystiolaeth newydd a chymryd camau gofynnol ar unrhyw adeg. Rydym yn gwneud hyn drwy ein proses dadansoddi risg, gan gadw at safonau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol. Rydym yn cadw llygad manwl ar waith rheoleiddwyr rhyngwladol dibynadwy eraill ac yn defnyddio gwyliadwriaeth i fonitro digwyddiadau bwyd yn fyd-eang.
- Cael gwared ar y gofyniad i osod deddfwriaeth i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig: Mae’r newid hwn yn caniatáu i awdurdodiadau, ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan weinidogion, ddod i rym ar ôl eu cyhoeddi gan yr ASB/FSS (a hynny, fwy na thebyg, ar ffurf cofrestr swyddogol), yn hytrach na’u nodi’n llawn mewn deddfwriaeth. Mae’r broses bresennol yn ychwanegu oedi o dri i chwe mis rhwng cymeradwyo cais a’i awdurdodi. Bydd y newid hwn yn cwtogi ar y cyfnod gweinyddol cyn y gellir gwerthu cynhyrchion newydd, diogel.
Mae’r ymgynghoriad ar gael ar wefan yr ASB, ac mae angen ymatebion erbyn 5 Mehefin 2024.