Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Gall system ddiwygiedig helpu i sicrhau safonau bwyd uchel, yn ôl Cadeirydd yr ASB

Mae Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, wedi dweud y bydd yn rhaid i’r ffordd y mae’r ASB yn rheoleiddio’r system fwyd esblygu, a hynny er mwyn sicrhau y gall yr Asiantaeth gwrdd â heriau’r dyfodol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 November 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 November 2024

Mae Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, wedi dweud y bydd yn rhaid i’r ffordd y mae’r ASB yn rheoleiddio’r system fwyd esblygu, a hynny er mwyn sicrhau y gall yr Asiantaeth gwrdd â heriau’r dyfodol.

Roedd yr Athro Jebb yn siarad yn seminar Food Thinkers City University ar ddydd Mercher 13 Tachwedd, lle nododd yr heriau digynsail y mae’r system fwyd yn eu hwynebu a’r rheiny sy’n ei rheoleiddio. Yn ôl yr Athro Jebb, mae risgiau o wrthdaro byd-eang a phwysau ariannol, ynghyd â’r cyfleoedd a gynigir gan dechnolegau newydd, yn gofyn i ni feddwl am ein system reoleiddio mewn ffordd newydd.

“Mae’n amlwg bod llawer o waith a rhai penderfyniadau anodd i’w gwneud er mwyn sicrhau bod gennym system reoleiddio effeithlon a chymesur y gellir ymddiried ynddi yr ydym i gyd ei heisiau.” meddai’r Athro Jebb.

“Rwy’n glir iawn bod angen i bobl fod wrth wraidd y gwaith hwn – hynny yw, pobl fel defnyddwyr, fel gweithwyr, ac fel dinasyddion, yn gwneud y penderfyniadau am y gymdeithas rydym yn byw ynddi.


“Mae angen i reoleiddwyr weithredu ar ran dinasyddion i osod y rheolau, monitro eu bod yn cael eu dilyn, a chymryd camau gorfodi cryf mewn achosion o dorri’r rheolau hyn. Mae angen iddynt osod y mesurau sy’n diogelu’r cyhoedd rhag gweithredwyr diegwyddor, wrth hefyd gefnogi’r gweithredwyr hynny sydd am wneud y peth iawn. Mae angen i ni sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio’n cefnogi busnesau drwy gynnal safonau, heb ychwanegu rhwystrau diangen at waith arloesi na chostau ychwanegol na ellir eu cyfiawnhau i ddefnyddwyr.”
Yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB

Pwysleisiodd yr Athro Jebb bwysigrwydd buddsoddi mewn pobl, rhannu a defnyddio data yn well, a mwy o gydweithredu ar draws llywodraethau yn y DU a chyda phartneriaid masnachu rhyngwladol. Gallwch ddarllen araith yr Athro Jebb ar ein gwefan.