Diweddariad pellach gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban yn dilyn y cynnydd mewn achosion o pancytopenia cathod
Diweddariad ar yr ymchwiliad i'r bwyd cathod a alwyd yn ôl yn dilyn cynnydd mewn achosion o pancytopenia cathod.
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi bod yn gweithio'n agos gyda Fold Hill Foods yn ystod yr ymchwiliad i'r bwyd cathod a alwyd yn ôl. Mae'r cwmni wedi bod yn cydweithredu'n llawn.
Nododd canlyniadau profion helaeth lefelau uwch o fycotocsinau mewn rhai samplau o'r bwyd cathod a alwyd yn ôl. Mae hyn yn cynnwys cyfansoddion penodol o'r enw T2 a HT2. Nid yw'r cynhyrchion hyn ar werth mwyach.
Ceir mycotocsinau mewn rhai mathau o fwyd a bwyd anifeiliaid, ac nid yw hyn, ynddo’i hun, yn golygu taw nhw yw achos y pancytopenia cathod. Nid oes cysylltiad achosol wedi'i bennu rhwng pancytopenia a'r cynhyrchion bwyd cathod a alwyd yn ôl.
O ganlyniad i'r canfyddiadau hyn, mae Fold Hill Foods yn gweithio gyda'i awdurdod lleol i gymryd camau i ailddechrau cynhyrchu.
Y camau nesaf yn yr ymchwiliad
Bydd dull amlasiantaethol yn parhau i geisio canfod achosion y pancytopenia. Wrth i wybodaeth newydd ddod i’r amlwg, byddwn ni’n adolygu ein dull o reoli unrhyw risgiau a nodwyd mewn bwyd anifeiliaid ac yn hysbysu'r diwydiant fel y gallant gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol o ganlyniad i'n canfyddiadau.
Cyhoeddwyd manylion yr hysbysiad galw cynnyrch yn ôl gwreiddiol ar 17 Mehefin.
Cwestiynau cyffredin
Rydym ni’n deall pa mor ofidus fu'r ddau fis diwethaf i berchnogion cathod ac rydym ni’n gwybod pa mor bwysig yw canfod tarddiad yr achosion pancytopenia cathod diweddar.
Nid yw ein gwaith profi a dadansoddi hyd yma wedi dod o hyd i gysylltiad achosol â'r achosion pancytopenia, ond mae ein hymchwiliad yn parhau a byddwn ni’n darparu diweddariad unwaith y bydd gennym ni ragor o wybodaeth.
Oni achoswyd yr achos (outbreak) pancytopenia gan fwyd cathod?
Hyd yma nid yw profion wedi gallu canfod achos pendant; nid ydym ni wedi diystyru bwyd cathod nac unrhyw achosion posibl eraill chwaith.
A yw'n ddiogel i unrhyw un sydd â’r bwyd cathod a alwyd yn ôl gartref ei fwydo i'w cathod?
Ni ddylai perchnogion cathod fwydo unrhyw fwyd cathod a alwyd yn ôl i'w cathod a dylent barhau i ddilyn y cyngor yn ein rhybudd galw cynnyrch yn ôl.
Beth yw'r achosion posibl eraill rydych chi'n ymchwilio iddyn nhw?
Rydym ni’n parhau i weithio gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) i nodi achos posibl y pancytopenia. Ar hyn o bryd nid ydym ni’n diystyru unrhyw achos posibl.
Pam mae’r cwmni'n cael ailddechrau cynhyrchu os nad yw'n sicr bod ei fwyd cathod yn ddiogel?
Nid oes cysylltiad achosol wedi'i bennu rhwng pancytopenia cathod a'r bwyd cathod.
Nid ydym ni wedi gallu diystyru posibilrwydd cysylltiad â'r cynhyrchion bwyd cathod a alwyd yn ôl yn unig ac nid oes gennym ni dystiolaeth o gysylltiad rhwng pancytopenia a chynhyrchion eraill Fold Hill Foods.
Mae rhai negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dangos canlyniadau profion mycotocsinau, gan awgrymu bod bwyd yn anniogel i gathod. Pam nad ydych chi wedi gweithredu?
Rydym ni’n ymwybodol o rai negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, lle mae canlyniadau profion wedi'u camddehongli fel rhai sy'n dangos perygl i gathod.
Nid yw presenoldeb mycotocsinau mewn bwyd cath o reidrwydd yn peri risg i gathod. Mae mycotocsinau yn sylweddau sy'n bresennol yn naturiol ac a gynhyrchir gan rai mathau o lwydni (ffyngau) a all dyfu ar amrywiaeth o wahanol gnydau a bwydydd anifeiliaid.
Os yw mycotocsinau i'w gweld yn eang mewn bwyd anifeiliaid, a ddylai pobl boeni am frandiau eraill o fwyd cath?
Na. Nid oes tystiolaeth sy’n cysylltu unrhyw gynhyrchion eraill â phancytopenia cathod.