Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ym mis Rhagfyr 2024

Mae’r agenda a’r papurau wedi’u cyhoeddi ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2024

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 November 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 November 2024

Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Harvey Goodwin yn Church House, Dean’s Yard, Llundain, dan gadeiryddiaeth yr Athro Susan Jebb, cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). 

Mae’n gyfarfod agored y gall aelodau’r cyhoedd ddod iddo. Bydd yn dechrau am 9.00am, ddydd Mercher, 11 Rhagfyr. Cofrestrwch yma os hoffech ddod i’r cyfarfod  yn bersonol neu os hoffech ymuno ar-lein. 

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:  

  • Rheoleiddio ar Lefel Genedlaethol
  • Gwerthusiad o’r Gyfundrefn Codi Tâl am Gig
  • Ceisiadau am Fwydydd Newydd sy’n cynnwys CBD

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

How to register for the open Board meeting 

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd  ddod i’r cyfarfod hwn. Cofrestrwch yma os hoffech ddod i’r cyfarfod yn bersonol.

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Yn ogystal, gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein. 

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar bapurau a gyhoeddwyd i’w trafod yn ei gyfarfodydd.

Gallwch gyflwyno’ch cwestiwn gan ddefnyddio’r ffurflen hon hyd at 5pm ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Bwrdd.  Sylwch fod cyfyngiad o 350 o eiriau ar y ffurflen i sicrhau bod eich cwestiwn yn gryno, er mwyn i ni allu mynd i’r afael ag ef yn llawn. 

Bydd cwestiynau a ddaw i law yn y fformat hwn yn cael eu cyhoeddi y diwrnod cyn cyfarfod y Bwrdd.

Byddwn yn anelu at anfon ateb atoch trwy e-bost o fewn 20 diwrnod gwaith i gyfarfod y Bwrdd, a bydd ymatebion hefyd yn cael eu cyhoeddi.

Ar gyfer cwestiynau nad ydynt yn ymwneud ag un o’r papurau sydd ar yr agenda, neu ar gyfer gohebiaeth sy’n hirach nag y mae’r ffurflen ar-lein yn ei ganiatáu, anfonwch e-bost i  correspondence@food.gov.uk a byddwn yn anelu at ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.  Sylwch na fydd y cyflwyniadau hyn a’u hatebion yn cael eu cyhoeddi fel arfer.