Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Mehefin 2023

Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin 2023 wedi’u cyhoeddi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 June 2023

Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin 2023 wedi’u cyhoeddi.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Belfast, a’i gadeirio gan gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.00am ddydd Mercher 21 Mehefin ac mae croeso i’r cyhoedd fod yno’n bersonol. Gallwch chi hefyd gofrestru i wylio ar-lein(link is external) (Opens in a new window).

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys y canlynol:

  • Rheolaethau Mewnforio a’r Model Gweithredu Targed (TOM)
  • Adroddiad Blynyddol y Prif Gynghorydd Gwyddonol
  • Swyddogaeth Rhagweld a Sganio’r Gorwel
  • Diweddariad ar Gyflenwad Milfeddygol, Moderneiddio a Chymorth i’r Sector Lladd-dai Bach
  • Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL)

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin 2023 yn gyfarfod agored ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r Bwrdd ac aelodau’r cyhoedd sy’n gallu bod yn bresennol. Gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein(link is external) (Opens in a new window).

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Ffôn: 01772 767731

E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk(link sends email)

Cyflwyno cwestiwn

Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar y papurau sy’n cael eu hystyried ym mhob un o’i gyfarfodydd.

Rydym yn awyddus i sicrhau, cyn belled ag y bo’n ymarferol, fod cwestiynau’n cael sylw yn y drafodaeth yng nghyfarfod y Bwrdd, felly mae’n bwysig bod yr ymholiadau mor gryno ac eglur â phosib.

Dylai cwestiynau ymwneud â phapurau’r Bwrdd a gyhoeddwyd cyn y cyfarfod. Ni fydd cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â phapur ar agenda cyfarfod Bwrdd yr ASB yn cael sylw yn ystod cyfarfod y Bwrdd, ond byddant yn cael eu hateb ar wahân ac yn ysgrifenedig.

Bydd pawb sy’n anfon cwestiwn ar gyfer cyfarfod y Bwrdd hefyd yn cael ateb ysgrifenedig o fewn 20 diwrnod gwaith i gyfarfod y Bwrdd. Cyhoeddir yr atebion ar dudalen berthnasol Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB.

Gallwch gyflwyno eich cwestiynau hyd at 5pm ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Bwrdd gan ddefnyddio’r ffurflen hon(link is external) (Opens in a new window). Ar ôl y dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu cyflwyno cwestiynau a bydd y ffurflen yn cau.