Cyhoeddi agenda ar gyfer cyfarfod mis Medi Bwrdd yr ASB sy'n cael ei gynnal yng Nghymru
Rydym ni wedi cyhoeddi'r agenda a rhai o'r papurau ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd sy'n cael ei gynnal y mis hwn.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Mercher 19 Mawrth 2018. Bydd yn dechrau am 9.00am dan arweiniad Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Heather Hancock. Gallwch chi fod yn bresennol yn y cyfarfod neu wylio'n fyw ar-lein.
Mae'r agenda'n cynnwys trafodaeth ar yr eitemau hyn:
- Diweddariad ar les anifeiliaid
- Rheoleiddio Ein Dyfodol – Fframwaith Sicrwydd ar gyfer Strategaethau Arolygu Cenedlaethol Prif Awdurdodau
- Adroddiad blynyddol ar ddigwyddiadau a gwydnwch
- Diweddariad ar weithgareddau'r ASB ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR)
Mae'r agenda lawn a'r papurau sydd wedi'u cyhoeddi ar gael ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan.
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Os hoffech ddod i'r cyfarfod, gallwch gofrestru'ch diddordeb trwy'r ddolen 'Cofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd' ar y dudalen hon.
Efallai bod lleoedd yn gyfyng, felly cofiwch ddisgwyl am neges swyddogol i gadarnhau eich bod wedi'ch cofrestru cyn gwneud unrhyw drefniadau.
Gallwch hefyd wylio'r cyfarfod llawn ar-lein, a hynny gan gofrestru trwy'r ddolen ar y dudalen hon.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
Ffôn: 020 8481 3302
E-bost: fsaboardmeetings@livegroup.co.uk
Hanes diwygio
Published: 5 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2021