Cyhoeddi adroddiad ar ffynonellau heintiadau Campylobacter ymysg bodau dynol
Heddiw mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi astudiaeth i bennu ymhellach brif ffynonellau'r clefyd hwn a gludir gan fwyd.
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan yr ASB yn cadarnhau taw ieir yw ffynhonnell y mwyafrif o achosion o Gampylobacter ymysg bodau dynol, ac yna anifeiliaid eraill fel defaid, moch, a gwartheg. Gellid bod wedi trosglwyddo’r haint hwn yn uniongyrchol i bobl trwy fwyd, ond gallai hefyd fod wedi ei drosglwyddo trwy halogiad dŵr neu’r amgylchedd.
Mae’r Astudiaeth Priodoli Ffynhonnell Campylobacter, a lansiwyd yn 2015 fel rhan o Raglen Lleihau Campylobacter ehangach a pharhaus yr ASB, hefyd yn datgelu cynnydd mewn ymwrthedd gwrthficrobaidd o fewn straenau Campylobacter rhwng 1997 a 2018. Mae gwaith yn parhau yn y maes hwn i bennu’r effaith lawn.
Meddai Pennaeth Gwyddoniaeth, Tystiolaeth ac Ymchwil yr ASB, Rick Mumford:
“Byddwn yn defnyddio’r canfyddiadau hyn i ddeall yn well achosion o heintiadau Campylobacter, ac i lywio gwaith pellach ar heintiadau a gludir gan fwyd. Bydd hyn hefyd yn helpu i nodi meysydd ymchwil pellach i’w harchwilio wrth i ni geisio lleihau baich cyffredinol heintiadau Campylobacter yn y DU.”
Amcangyfrifir bod tua 300,000 o achosion o Gampylobacter ymysg bodau dynol yn deillio o fwyd bob blwyddyn yn y DU, a hynny gyfanswm o tua 630,000 o achosion. Mae Campylobacter yn byw yn llwybr coluddol ystod eang o famaliaid, adar, a hyd yn oed bryfed.
Cychwynnodd ymchwilwyr ar y prosiect hwn i bennu cronfeydd allweddol heintiadau campylobacter ymysg bodau dynol, ac i helpu i nodi strategaethau rheoli risg a allai fod yn effeithiol. Asesodd y prosiect samplau gan gleifion o ddau leoliad – safle trefol cynrychioliadol yng Ngogledd Tyneside, a safle gwledig yn Swydd Rhydychen – ochr yn ochr â bwydydd a samplwyd o safleoedd manwerthu yng Nghaerefrog, Caersallog, a Llundain.
O ran ymwrthedd gwrthficrobaidd, datgelodd yr astudiaeth gynnydd mewn ymwrthedd fflworocwinolon a thetrasyclin mewn arunigion C.jejuni o heintiadau mewn bodau dynol rhwng 1997 a 2018. Roedd ymwrthedd fflworocwinolon yn fwy cyffredin mewn arunigion C.jejuni o ieir nag o anifeiliaid eraill, tra oedd ymwrthedd tetrasyclin yn fwy cyffredin mewn arunigion o ddofednod a moch nag o anifeiliaid cnoi cil. Mae ymwrthedd i facrolidau ac aminoglycosidau yn parhau i fod yn isel.
Mae’r rhan fwyaf o bobl a gaiff eu heintio â Champylobacter yn gwella’n llawn ac yn gyflym, ond gallai achosi problemau iechyd hirdymor a difrifol i rai, gan gynnwys plant ifanc a’r henoed.
Gallwch chi helpu i gadw eich teulu yn ddiogel trwy goginio eich bwyd yn gywir, ac osgoi croeshalogi trwy sicrhau hylendid personol da.
Darllenwch yr adroddiad llawn fan hyn (Saesneg yn unig.) Fel rhan o’r prosiect, crëwyd bwrdd stori data y gellir ei weld ar-lein.
I ddarganfod rhagor am y clefyd hwn a gludir gan fwyd, ewch i'n tudalen we Campylobcater.