Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Mehefin 2023
Bydd cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ym mis Mehefin 2023 yn cael ei gynnal heddiw am 9.00am.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Belfast, a’i gadeirio gan gadeirydd yr ASB, yr Athro Susan Jebb. Mae dal amser i chi gofrestru i'w wylio ar-lein.
Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys y canlynol:
- Rheolaethau Mewnforio a’r Model Gweithredu Targed (TOM)
- Adroddiad Blynyddol y Prif Gynghorydd Gwyddonol
- Swyddogaeth Rhagweld a Sganio’r Gorwel
- Diweddariad ar Gyflenwad Milfeddygol, Moderneiddio a Chymorth i’r Sector Lladd-dai Bach
- Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL)
Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin 2023 yn gyfarfod agored ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r Bwrdd ac aelodau’r cyhoedd sy’n gallu bod yn bresennol. Gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01772 767731
- E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk
Cyflwyno cwestiwn
Rhaid cyflwyno cwestiynau sy’n ymwneud â phapurau Bwrdd yr ASB cyn 5pm ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Bwrdd.
I weld y cwestiynau sydd wedi dod i law’r ASB cyn y dyddiad cau, ewch i dudalen y Bwrdd ar ein gwefan.
Hanes diwygio
Published: 20 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mehefin 2023