Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Mawrth 2024
Bydd cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gyfer mis Mawrth 2024 yn cael ei gynnal heddiw am 9.00am.
Cynhelir y cyfarfod yn Leeds, dan arweiniad cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Mae dal amser i chi gofrestru i’w wylio ar-lein.
Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
- clefydau a gludir gan fwyd
- bridio manwl
- diweddariad ar ddiwygio cynhyrchion rheoleiddiedig
- rheoli risg strategol
- adolygiad llywodraethu
Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth 2024 yn gyfarfod agored ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r bwrdd a’r cyhoedd sy’n gallu bod yn bresennol. Gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- ffôn: 01772 767731
- e-bost: fsaboardmeetings@onetwo.agency
Cwestiynau i’r Bwrdd
I weld y cwestiynau sydd wedi dod i law’r ASB cyn y cyfarfod, ewch i dudalen y Bwrdd ar ein gwefan.