Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 22 Hydref 2024

Penodol i Gymru

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal ei gyfarfod agored nesaf, ddydd Mawrth, 22 Hydref 2024. Cyfarfod ar thema archwilio’r maes rheoleiddio fydd hwn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 October 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 October 2024

Mae’r agenda’n cynnwys

  • Trosolwg o Bartneriaethau Awdurdodau Sylfaenol
  • Trosolwg o gynllun peilot y Model Gweithredu Safonau Bwyd
  • Trosolwg gan dîm Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau’r ASB 

Mae’r agenda lawn i’w gweld ar dudalen Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar ein gwefan.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pynciau hyn, neu yng ngwaith yr ASB yn gyffredinol, ddod i’r cyfarfod i fynegi barn ac i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored.

Gallwch fod yn bresennol ar-lein ac mae modd cyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor ymlaen llaw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.

Lleoliad

Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Harlech, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, ac ar-lein dros Microsoft Teams.

Cadw eich lle a chyflwyno cwestiynau

Anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk er mwyn gallu gwylio ar-lein, cyflwyno cwestiwn neu gael mwy o wybodaeth.