Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 16 Gorffennaf 2024

Penodol i Gymru

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal ei gyfarfod agored nesaf dros Microsoft Teams, ddydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024. Thema’r cyfarfod hwn fydd digwyddiadau a gwydnwch.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 July 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 July 2024

Mae’r agenda’n cynnwys

  • Trosolwg o ddigwyddiadau yng Nghymru
  • Trosolwg o’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd
  • Cyflwyniad ar Wyliadwriaeth Strategol

Mae’r agenda lawn i’w gweld ar dudalen Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar ein gwefan.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pynciau hyn, neu yng ngwaith yr ASB yn gyffredinol, ddod i’r cyfarfod i fynegi barn ac i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored.

Gallwch ymuno ar-lein a chyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor ymlaen llaw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.

Lleoliad

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein dros MS Teams.

Cadw eich lle a chyflwyno cwestiynau

Anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk er mwyn gwylio’r cyfarfod ar-lein, cyflwyno cwestiwn neu gael mwy o wybodaeth.