Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Canllawiau diweddaredig i’r diwydiant ar roi gwybodaeth am alergenau bwyd yn y sector y tu allan i’r cartref

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canllawiau arferion gorau i’r diwydiant ar ddarparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr â gorsensitifrwydd i fwyd. Y bwriad yw annog y diwydiant i ddarparu gwybodaeth am alergenau bwyd yn ysgrifenedig yn y sector y tu allan i’r cartref, er enghraifft bwytai, caffis, delis, stondinau marchnad a siopau tecawê.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 March 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 March 2025

Nod y canllawiau yw cefnogi busnesau bwyd wrth ddarparu gwybodaeth am yr 14 o alergenau bwyd i’w cwsmeriaid, gan helpu i gadw defnyddwyr yn ddiogel. Mae’r canllawiau’n berthnasol i fusnesau bwyd sy’n darparu bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw neu fwyd ‘rhydd’, a hynny wyneb yn wyneb neu drwy werthiannau ar-lein.

Mae’n dilyn ymgynghoriad ar y canllawiau, yn ogystal ag ymchwil a gwaith ymgysylltu gan yr ASB â defnyddwyr a busnesau bwyd i ddeall yn well sut y gallai busnesau bwyd wella gwybodaeth ysgrifenedig i ddefnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd.

‘Rydym yn dal i annog defnyddwyr i ddweud wrth staff busnesau bwyd am unrhyw alergeddau neu anoddefiadau bwyd, ond rydym bellach yn gosod disgwyliad i fusnesau ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau ac yn eu hannog i gael sgwrs gyda’u cwsmeriaid. Bydd y canllawiau hawdd eu defnyddio hyn yn helpu busnesau, fel caffis a bwytai, i ddarparu gwybodaeth am alergenau mewn ffordd fwy cyson a defnyddiol i bobl sydd â gorsensitifrwydd i fwyd. 

‘Drwy ddilyn y canllawiau, gall busnesau hybu hyder defnyddwyr yn eu busnesau bwyd drwy sicrhau bod defnyddwyr yn gallu deall yr wybodaeth am alergenau a sicrhau nad ydynt yn teimlo eu bod wedi’u heithrio rhag profi ein diwylliant bwyd bywiog.’  

Katie Pettifer, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae’r canllawiau diweddaredig yn cynnwys yr egwyddorion canlynol:

  • dylai gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau fod ar gael bob amser ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw ochr yn ochr â sgwrs rhwng staff gweini a chwsmeriaid am eu gofynion o ran alergenau

  • enghreifftiau o sut i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau

  • adnoddau rhad ac am ddim i gefnogi busnesau i weithredu’n unol â’r canllawiau, fel eiconau alergedd, matrics alergenau a phoster alergedd newydd y gall busnesau bwyd ei lawrlwytho a’i ddefnyddio ar eu deunyddiau eu hunain (er enghraifft bwydlenni a gwefannau)

Mae’r canllawiau diweddaraf hyn yn berthnasol i fusnesau sy’n gweithredu yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Cyhoeddi’r canllawiau yw’r datblygiad diweddaraf ers i Fwrdd yr ASB gytuno ym mis Rhagfyr 2023 i wella’r wybodaeth am alergeddau a ddarperir i ddefnyddwyr.