Canllawiau diweddaredig i’r diwydiant ar roi gwybodaeth am alergenau bwyd yn y sector y tu allan i’r cartref
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canllawiau arferion gorau i’r diwydiant ar ddarparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr â gorsensitifrwydd i fwyd. Y bwriad yw annog y diwydiant i ddarparu gwybodaeth am alergenau bwyd yn ysgrifenedig yn y sector y tu allan i’r cartref, er enghraifft bwytai, caffis, delis, stondinau marchnad a siopau tecawê.
Nod y canllawiau yw cefnogi busnesau bwyd wrth ddarparu gwybodaeth am yr 14 o alergenau bwyd i’w cwsmeriaid, gan helpu i gadw defnyddwyr yn ddiogel. Mae’r canllawiau’n berthnasol i fusnesau bwyd sy’n darparu bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw neu fwyd ‘rhydd’, a hynny wyneb yn wyneb neu drwy werthiannau ar-lein.
Mae’n dilyn ymgynghoriad ar y canllawiau, yn ogystal ag ymchwil a gwaith ymgysylltu gan yr ASB â defnyddwyr a busnesau bwyd i ddeall yn well sut y gallai busnesau bwyd wella gwybodaeth ysgrifenedig i ddefnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd.
‘Rydym yn dal i annog defnyddwyr i ddweud wrth staff busnesau bwyd am unrhyw alergeddau neu anoddefiadau bwyd, ond rydym bellach yn gosod disgwyliad i fusnesau ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau ac yn eu hannog i gael sgwrs gyda’u cwsmeriaid. Bydd y canllawiau hawdd eu defnyddio hyn yn helpu busnesau, fel caffis a bwytai, i ddarparu gwybodaeth am alergenau mewn ffordd fwy cyson a defnyddiol i bobl sydd â gorsensitifrwydd i fwyd.
‘Drwy ddilyn y canllawiau, gall busnesau hybu hyder defnyddwyr yn eu busnesau bwyd drwy sicrhau bod defnyddwyr yn gallu deall yr wybodaeth am alergenau a sicrhau nad ydynt yn teimlo eu bod wedi’u heithrio rhag profi ein diwylliant bwyd bywiog.’
Mae’r canllawiau diweddaredig yn cynnwys yr egwyddorion canlynol:
-
dylai gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau fod ar gael bob amser ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw ochr yn ochr â sgwrs rhwng staff gweini a chwsmeriaid am eu gofynion o ran alergenau
-
enghreifftiau o sut i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau
-
adnoddau rhad ac am ddim i gefnogi busnesau i weithredu’n unol â’r canllawiau, fel eiconau alergedd, matrics alergenau a phoster alergedd newydd y gall busnesau bwyd ei lawrlwytho a’i ddefnyddio ar eu deunyddiau eu hunain (er enghraifft bwydlenni a gwefannau)
Mae’r canllawiau diweddaraf hyn yn berthnasol i fusnesau sy’n gweithredu yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Cyhoeddi’r canllawiau yw’r datblygiad diweddaraf ers i Fwrdd yr ASB gytuno ym mis Rhagfyr 2023 i wella’r wybodaeth am alergeddau a ddarperir i ddefnyddwyr.