Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar y Cynnig Ychwanegol ar gyfer Pwerau Ymchwilio Uwch i’r Asiantaeth Safonau Bwyd

Penodol i Gymru a Lloegr

Cynnig Ychwanegol ar gyfer Pwerau Ymchwilio Uwch i’r Asiantaeth Safonau Bwyd o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) (Cymru a Lloegr)

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 September 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 September 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

 Crynodeb o'r ymatebion

Ymgynghoriad ar y Cynnig Ychwanegol ar gyfer Pwerau Ymchwilio Uwch i’r Asiantaeth Safonau Bwyd - Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig)

Ymgynghoriad y Llywodraeth 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn agored i’r cyhoedd ac wedi’i dargedu at unigolion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru a Lloegr.  

Mae deddfwriaeth ar wahân sy’n llywodraethu pwerau ymchwilio yn gymwys i Ogledd Iwerddon. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar wahân ar gyfer Gogledd Iwerddon maes o law, er mwyn casglu safbwyntiau ar gynlluniau i geisio pwerau ymchwilio uwch ar gyfer swyddogion yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) sy’n weithredol yng Ngogledd Iwerddon o dan Orchymyn yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (Gogledd Iwerddon) 1989 a deddfwriaeth arall. 

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf i ddeddfwyr, adrannau gweinidogol ac anweinidogol y llywodraeth sy’n ymwneud ag ymchwilio i ddiogelwch bwyd a thwyll, y rheiny sy’n gweithio ym maes plismona a gorfodi, cyrff ac arolygiaethau safonau proffesiynol, y gweinyddiaethau datganoledig, awdurdodau lleol, swyddogion safonau masnach, gweithwyr iechyd yr amgylchedd ac iechyd cyhoeddus proffesiynol, gweithredwyr busnesau bwyd a chyrff masnach, defnyddwyr a sefydliadau hawliau sifil. 

Pwnc

Diben yr ymgynghoriad hwn yw casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar gynlluniau’r ASB i geisio pŵer ymchwilio uwch ychwanegol i swyddogion yr NFCU trwy Offeryn Statudol (OS).  

Cafodd Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022 Gydsyniad Brenhinol ar 28 Ebrill 2022. Mae’n rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno pwerau perthnasol drwy reoliadau o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE), Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 a Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 i swyddogion yr NFCU. Mae ymgynghoriad cynharach yn nodi maint tebygol y pwerau y gofynnir amdanynt. Ers yr ymgynghoriad hwn, mae gofyniad i ymestyn pŵer ychwanegol o dan PACE i swyddogion yr NFCU wedi’i nodi. 

Cynigir y byddai pwerau ymchwilio uwch yn galluogi’r NFCU i ganfod ac ymchwilio i droseddau bwyd yn fwy effeithiol. Nid yw’r pwerau hyn wedi’u rhoi i’r NFCU eto gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ond mae’r ASB yn parhau i gynllunio ar gyfer is-ddeddfwriaeth i gyflawni hyn. 

Cyflwyniad 

Mae’r ASB wedi ymgynghori’n flaenorol ar fynediad at bwerau ymchwilio uwch ar ôl i Ddeddf yr Heddlu, Troseddau, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (PCSC) gael Cydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2022. Mae’r PCSC yn cynnwys pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy’n ymestyn rhai pwerau statudol ychwanegol i’r NFCU. Bydd angen is-ddeddfwriaeth er mwyn ymestyn y pwerau hyn. 

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus am 12 wythnos rhwng mis Mai a mis Awst 2022 i geisio safbwyntiau ynghylch a ddylid ymestyn y pwerau statudol ychwanegol hyn i’r NFCU. Ar y cyfan, roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn o blaid rhoi’r pwerau hyn i’r NFCU, a chyflwyno goruchwyliaeth briodol ar gyfer defnydd yr Uned o’r pwerau hyn. 
 
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar bŵer ymchwilio pellach ar gyfer yr NFCU a nodir yn PACE, sef pwerau mynediad a chwilio ar ôl arestio sydd wedi’u rhestru o dan adran 18 o’r Ddeddf. Mae gweithgarwch gweithredol diweddar wedi amlygu y gall peidio â chael mynediad at bwerau adran 18 arwain at anfantais sylweddol i allu swyddogion yr NFCU i fod ar safleoedd a chynorthwyo gyda chwiliadau ar ôl arestio yn gyfreithlon.   

Trwy ymgynghori ar y mater hwn, mae’r ASB yn gofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid ynghylch a yw’r pŵer a gynigir yn gyfiawn ac yn gymesur o ran galluogi’r NFCU i fynd i’r afael â throseddau bwyd yn effeithiol. Ar dudalen 6 rydym yn nodi mwy o fanylion am y pŵer y mae’r ASB yn cynnig ei ymestyn i’r NFCU.  

Bydd y dystiolaeth a geir yn yr ymgynghoriad hwn yn llywio’r argymhellion a wneir gan yr ASB i’r Ysgrifennydd Gwladol. Mater i’r Ysgrifennydd Gwladol fydd penderfynu ar gynnwys ac amseriad unrhyw ddeddfwriaeth i wneud newidiadau o’r fath o ran y pŵer sydd wedi’i nodi yn yr ymgynghoriad hwn a’r pwerau a nodwyd yn ymgynghoriad blaenorol yr ASB ar bwerau ymchwilio.  
 

Cynigion ar gyfer pwerau ymchwilio  

Mae’r ASB yn ceisio safbwyntiau ar y cynnig y dylid rhoi’r pŵer ymchwilio ychwanegol i’r NFCU a nodir yn adran 18 o PACE, i’w galluogi i ganfod ac ymchwilio’n fwy effeithiol i droseddau difrifol fel twyll a allai effeithio ar ddiogelwch neu ddilysrwydd bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid.  

Cyn yr ymgynghoriad blaenorol ar bwerau ymchwilio uwch, aeth yr ASB ati i asesu’n wrthrychol pa bwerau penodol sydd eu hangen i gyflawni mandad yr NFCU yn fwyaf effeithiol, gan gynnig nifer cymesur a chyfyngedig o bwerau i swyddogion troseddau bwyd. Ers yr ymgynghoriad hwnnw ac ar ôl ystyried a dysgu gweithredol pellach, fe wnaethom nodi gofyniad am bwerau pellach o dan adran 18 o PACE.  

Mae adran 18 o PACE yn rhoi pwerau mynediad a chwilio i swyddogion dynodedig ar ôl arestio person, ar gyfer unrhyw safle a feddiannir neu a reolir gan y person a arestiwyd am drosedd lle mae sail resymol dros amau bod tystiolaeth ar y safle sy’n ymwneud â’r drosedd dan sylw, neu drosedd cysylltiedig. Nid oes angen gwarant i arfer y pwerau hyn. Mae pwerau PACE Adran 18 ar gael i gyrff eraill nad ydynt yn heddluoedd fel yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur (GLAA). 

Er bod y pŵer hwn yn ymwneud â gweithgarwch yn dilyn arestio, nid yw’r ASB yn ceisio mynediad at bwerau arestio ar gyfer ei swyddogion troseddau bwyd. 

Mae defnyddio pwerau ymchwilio yn gyfrifoldeb difrifol a rhaid ei arfer, ei reoli a’i fonitro’n ofalus er mwyn cynnal hyder y cyhoedd ac atal camddefnydd. Mae’r ASB yn parhau i ymgysylltu â’r Swyddfa Gartref ar y trefniadau atebolrwydd a llywodraethu ychwanegol priodol ar gyfer arfer y pwerau hyn, o ystyried eu natur ymwthiol. 

Mae gan yr ASB eisoes fynediad at amrywiaeth o bwerau ymchwilio ac mae ganddi brofiad helaeth o’u harfer mewn modd cymesur sy’n gyson â mesurau diogelu a safonau proffesiynol perthnasol ac sy’n destun arolygiaeth annibynnol.

Cynnig am Bwerau Ymchwilio Ychwanegol 

Cynnig A: Byddai’r ASB yn croesawu safbwyntiau ynghylch a ddylai’r ASB (NFCU) gael pwerau o dan adran 18 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE)  
 

PACE 1984 (Cymru a Lloegr) Adran 18
Disgrifiad o’r Pŵer (yn yr iaith wreiddiol)  The power to enter and search any premises occupied or controlled by a person who is under arrest where there are reasonable grounds for suspecting that there may be evidence on the premises (other than items subject to legal professional privilege) that relate to that offence or some other indictable offence which is connected with or similar to that offence,  and to seize and retain such material if located during the search.

Gweinyddiaethau datganoledig 

Mae cylch gwaith yr ASB yn estyn i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Er mai uchelgais yr ASB yw cael pwerau ymchwilio ychwanegol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’r ymgynghoriad hwn yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig. 

Bydd ymgynghoriad ar wahân yn cael ei gynnal ar gyfer Gogledd Iwerddon maes o law.  

Mae Safonau Bwyd yr Alban yn gyfrifol am ddiogelwch a hylendid bwyd yn yr Alban gydag Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban (SFCIU) benodedig. 

Gwybodaeth bellach a sut i ymateb 

Os oes angen y ddogfen hon arnoch chi mewn fformat haws ei ddarllen, anfonwch fanylion at y swyddog cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a bydd eich cais yn cael ei ystyried. 

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi

Rhaid i’r ymatebion ddod i law erbyn diwedd y dydd ar 6 Awst 2023. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli). 

Anfonwch eich ymateb i nfcuconsultation@food.gov.uk.  

I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau

Ar ran yr ASB, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn. 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.