Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig

Ymgynghoriad ar un cais i awdurdodi ychwanegyn bwyd anifeiliaid i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r cais am gynnyrch rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon, sydd wedi’i gyflwyno i’w awdurdodi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 September 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 September 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

I bwy bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf? 

  • gwneuthurwyr, mewnforwyr/allforwyr a manwerthwyr bwyd anifeiliaid 
  • pob prynwr bwyd anifeiliaid, gan gynnwys ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ac anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd  
  • cyrff masnach sy’n cynrychioli rhanddeiliaid mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, amaethyddiaeth a’r amgylchedd  
  • undebau llafur sy’n cynrychioli rhanddeiliaid yn y diwydiant ffermio  
  • sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn cadwyni bwyd a chadwyni bwyd anifeiliaid  
  • Awdurdodau Gorfodi 

Mae rhestr o bartïon sydd â buddiant wedi’i chynnwys yn y pecyn ymgynghori. 

Pwnc yr ymgynghoriad 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud ag un cais i awdurdodi ychwanegyn bwyd anifeiliaid i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ym Mhrydain Fawr.  

Mae Safonau Bwyd yr Alban (FSS) a’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi asesu un cais am ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn ddiweddar: RP16 – Celad cromiwm o DL-methionin (Availa® Cr) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer gwartheg godro. Mae RP16 yn gais ychwanegol at y ceisiadau diweddar i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig: 24 o geisiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid ac un cais am fwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol (PARNUT). Lansiwyd yr ymgynghoriad hwn ar 22 Ebrill 2024. Y bwriad yw bod gweinidogion yn ystyried cais RP16 ochr yn ochr â’r pedwar ar hugain o ychwanegion bwyd anifeiliaid ac un PARNUT i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid. 

Gan mai cais unigol yw hwn yn ychwanegol at ymgynghoriad presennol, bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg am bedair wythnos. Bydd rhanddeiliaid yn cael cyfle i roi sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn, a’r dyddiad cau ar gyfer ymatebion fydd 1 Medi 2024. 

Yn ogystal â’r ymgynghoriad hwn, rydym hefyd wedi cyhoeddi dogfen ar y cyd gan yr ASB ac FSS, yn cynnwys argymhelliad rheoli risg (PDF isod) ac asesiad diogelwch ar gyfer y ceisiadau (dolen isod). 

PDF o’r argymhelliad rheoli risg: 

Asesiad Diogelwch RP16 Celad Croniwm o DL-Methionin

Diben yr ymgynghoriad hwn

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi’r cyfle i randdeiliaid gyflwyno eu barn ar awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid celad cromiwm o DL-methionin (Availa® Cr).

Byddwn yn ystyried adborth gan randdeiliaid er mwyn hysbysu gweinidogion Cymru a Lloegr cyn iddynt wneud penderfyniad, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa i Weinidog Iechyd Gogledd Iwerddon. Rydym yn ceisio adborth ar y telerau awdurdodi arfaethedig, ein hasesiad o’r effeithiau posib a nodir yn y pecyn ymgynghori, ac unrhyw dystiolaeth bellach a allai fod gennych ar effeithiau ychwanegol y dylem eu hystyried.   

Mae’r FSS yn cyhoeddi ymgynghoriad cyfochrog i lywio penderfyniad gweinidogion yn yr Alban yn yr un modd. 

Pecyn ymgynghori

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol a’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn.  

Mae’r Pecyn Ymgynghori llawn ar gael drwy’r ddolen isod:  

Pecyn ymgynghori ar un cais i awdurdodi ychwanegyn bwyd i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn trwy’r arolwg ar-lein. Fel arall, gallwch e-bostio ymateb i: 

E-bost: RPconsultations@food.gov.uk 
Enw: Y Tîm Cymeradwyo Cynhyrchion Rheoleiddiedig 
Is-adran/Cangen: Gwasanaethau Rheoleiddiedig 

Os byddwch yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli. 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein Hysbysiad preifatrwydd ynghylch ymgynghoriadau

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag Egwyddorion Ymgynghori Llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny yn y ddogfen ymgynghori.