Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar Gynigion Cynnar ar gyfer Model Cyflenwi’r Dyfodol i ddatblygu Rheolaethau Swyddogol a Ddarperir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn y Sector Cig

Ymgynghoriad yn ceisio barn rhanddeiliaid ar gynigion cynnar i ddatblygu Model Cyflenwi’r Dyfodol ar gyfer Rheolaethau Swyddogol a ddarperir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn y sector cig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 May 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 May 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Crynodeb o ymatebion

I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?

Defnyddwyr, y diwydiant cig (Gweithredwyr Busnesau Bwyd, Cyrff Masnach y diwydiant cig), sefydliadau sicrwydd trydydd parti ar gyfer cig, cyrff masnach proffesiynol a chyrff masnach eraill (milfeddygol, hylendid cig, diogelwch bwyd, safonau masnachu, buddiannau busnes), darparwyr arolygiadau hylendid cig ac adnoddau milfeddygol masnachol, manwerthwyr (archfarchnadoedd), adrannau rheoleiddio a pholisi'r llywodraeth (milfeddygol ac arolygiadau diogelwch bwyd, Ysgrifenyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE), gweinyddiaethau datganoledig, iechyd yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd, masnach ac adrannau eraill), awdurdodau lleol, Undebau Llafur a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb. 

Pwnc ymgynghori 

Cynigion cynnar i ddatblygu Model Cyflenwi’r Dyfodol ar gyfer Rheolaethau Swyddogol a ddarperir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn y sector cig. 

Pwrpas yr ymgynghoriad 

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw casglu barn rhanddeiliaid ar gynnig cynnar i ddiwygio Rheolaethau Swyddogol a ddarperir gan yr ASB yn y sector cig fel rhan o'n proses casglu tystiolaeth ehangach. 

Pecyn ymgynghori 

Sut i ymateb

Dylid anfon ymatebion i’r ymgynghoriad hwn dros e-bost at OTP@food.gov.uk.

Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion 

O fewn tri mis ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, rydym ni’n anelu at gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd a darparu dolen iddo o'r dudalen hon. 

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y ffordd yr ydym ni’n trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd ar ymgynghoriadau.

Rhagor o wybodaeth 

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i baratoi yn unol ag Egwyddorion Ymgynghori Llywodraeth Ei Mawrhydi. Os cynhyrchwyd Asesiad Effaith, mae wedi'i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na chynhyrchwyd Asesiad Effaith, rhoddir y rheswm yn y ddogfen ymgynghori.

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.