Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar ganllawiau arferion gorau - Gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i geisio adborth gan randdeiliaid ar ganllawiau arferion gorau arfaethedig ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd sy’n darparu bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf: 

  • Gweithredwyr busnesau bwyd (FBOs), manwerthwyr, arlwywyr sefydliadol a gweithredwyr eraill sy’n darparu bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw (er enghraifft, bwyd rhydd)
  • Awdurdodau gorfodi
  • Cyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd
  • Unrhyw sefydliad neu berson arall sydd â buddiant mewn polisi gorsensitifrwydd i fwyd 

Diben yr ymgynghoriad 

Mae’r ASB yn ceisio adborth gan randdeiliaid ar ganllawiau arferion gorau newydd ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd sy’n darparu bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw.  

Mae’r canllawiau hyn yn ymdrin â dehongli a chymhwyso’r ddarpariaethau alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw.  

Mae mwy o fanylion am sut i ddarparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol i’w gweld yn ein Canllawiau Technegol ar Labelu a Gwybodaeth am Alergenau Bwyd

Mae’r ASB yn ceisio sylwadau ac adborth ar sut mae ein polisïau yn cael eu mynegi fel rhan o’n canllawiau arferion gorau arfaethedig.  Gallai hyn gynnwys unrhyw effeithiau posib y gallai’r newidiadau hyn eu cael. 

Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, bydd yr ASB yn casglu, yn ystyried ac yn cyhoeddi unrhyw ymatebion a ddaw i law, cyn cyhoeddi’r canllawiau arferion gorau yn gynnar yn 2025. 

Nid yw’r canllawiau hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau deddfwriaethol. Maent yn canolbwyntio ar yr arferion gorau ar gyfer pwysleisio alergenau mewn fformat ysgrifenedig yn y sector bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw. 

Er mwyn gallu ateb cwestiynau’r ymgynghoriad, bydd angen i chi fod wedi darllen y Canllawiau Arferion Gorau drafft (Saesneg yn unig):
 

Ymgysylltu â rhanddeiliaid 

Er mwyn sicrhau ein bod wedi ymgysylltu â’r rhanddeiliaid perthnasol cyn llunio’r canllawiau arferion gorau hyn, ymgysylltodd Tîm Polisi Gorsensitifrwydd i Fwyd yr ASB â dros 60 o awdurdodau lleol, dros 100 o fusnesau a chyrff masnach amrywiol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Rhannodd rhanddeiliaid eu harbenigedd ar sut y gallai busnesau roi’r canllawiau hyn ar waith, yn ogystal â rhai o’r heriau y gallent eu hwynebu wrth wneud hynny.

Amcanion yr ymgynghoriad 

  1. Ystyried yr effeithiau ar weithredwyr busnesau bwyd yn sgil mabwysiadu’r canllawiau arferion gorau hyn ar ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau yn y sector bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw 
  2. Deall unrhyw faterion ehangach sy’n ymwneud â’r canllawiau
  3. Asesu pa mor effeithiol yw’r canllawiau arferion gorau hyn o ran cefnogi gweithredwyr busnesau bwyd i roi gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau ar waith yn eu busnesau bwyd
  4. Ceisio adborth ar welliannau posib i gefnogi gweithredwyr busnesau bwyd

Pethau i’w hystyried 

Wrth ateb cwestiynau’r ymgynghoriad, dylech ystyried y canlynol: 

  • Beth yw eich barn am yr hyn yr ydym yn ei gynnig? 
  • Beth fyddai’r effeithiau ar eich busnes? 
  • P’un a ydych yn meddwl bod y canllawiau newydd yn cael eu cyfathrebu’n effeithiol 
  • A oes unrhyw adnoddau neu ddeunyddiau cyfathrebu a fyddai’n ddefnyddiol i chi? 

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn trwy’r arolwg ar-lein erbyn 27 Tachwedd 2024. Os hoffech chi gwblhau’r arolwg hwn yn Gymraeg, defnyddiwch y gwymplen ar frig yr arolwg a dewiswch ‘Cymraeg’.

Er mwyn i’ch ymatebion gael eu hystyried, rhaid i chi glicio ar y botwm ‘Cyflwyno’ ar ddiwedd yr arolwg.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, gallwch anfon e-bost i: AllergenInformation.Consultation@food.gov.uk  

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.