Ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i’r broses awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig
Nod yr ymgynghoriad hwn yw casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar newidiadau arfaethedig i’r broses awdurdodi ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig.
Crynodeb o ymatebion
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb:
- busnesau bwyd a chymdeithasau masnach y diwydiant sydd â buddiant mewn cynhyrchion rheoleiddiedig
- awdurdodau cymwys (awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd)
- defnyddwyr a rhanddeiliaid ehangach
Mae rhestr o bartïon sydd â buddiant wedi’i chynnwys yn Atodiad A yn y pecyn ymgynghori.
Pwnc yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn, a gynhelir ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS), yn ymwneud â’r cynigion cychwynnol i ddiwygio deddfwriaeth er mwyn symleiddio’r broses awdurdodi ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig. Mae cynhyrchion rheoleiddiedig yn gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid y mae’n rhaid iddynt gael eu hawdurdodi cyn y gellir eu gwerthu. Mae’r rhain yn cynnwys ychwanegion bwyd, cyflasynnau, bwydydd newydd, organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) i’w defnyddio fel bwyd a bwyd anifeiliaid, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, ac ychwanegion bwyd anifeiliaid.
Etifeddwyd y broses awdurdodi bresennol gan yr Undeb Ewropeaidd (UE), ac mae Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Bwrdd Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi cytuno y bydd angen gwneud newidiadau sylweddol er mwyn sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n gallu ymdopi â chyflymder arloesi yn y diwydiant bwyd. Y ddau gynnig yn yr ymgynghoriad hwn yw:
- cael gwared ar y gofynion adnewyddu ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid, ac ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid sy’n cynnwys, neu sydd wedi’u cynhyrchu ar sail organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) a chyflasynnau mwg; a
- caniatáu i awdurdodiadau cynhyrchion rheoleiddiedig ddod i rym pan gânt eu cyhoeddi, yn debygol ar gofrestr swyddogol, yn dilyn penderfyniad gweinidogol.
Pwrpas yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y ddau gynnig cychwynnol ar gyfer diwygiadau deddfwriaethol er mwyn symleiddio’r broses awdurdodi ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig, fel yr amlinellir uchod ac y manylir arnynt yn y pecyn ymgynghori.
Rydym yn ceisio adborth ar y cynigion a’n hasesiad o’r effeithiau posib sydd wedi’u nodi yn y pecyn ymgynghori, ac unrhyw dystiolaeth bellach a allai fod gennych ar effeithiau ychwanegol y dylem eu hystyried.
Dyma gyfle rhanddeiliaid i gyfrannu at y cyngor terfynol a roddir i weinidogion.
Mae’r ASB ac FSS yn bwriadu cyflwyno cynigion pellach ar gyfer diwygio a moderneiddio’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig. Cam cyntaf yw’r cynigion hyn. Bydd mwy o wybodaeth am gynlluniau diwygio tymor hwy yn cael ei chyflwyno i Fyrddau’r ASB ac FSS ym mis Mehefin 2024 ac, os caiff y cynlluniau hyn eu derbyn, byddant yn destun ymgynghoriad ar wahân.
Pecyn ymgynghori
Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol a’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn. Mae’r ddogfen ymgynghori lawn ar gael ar y tudalennau canlynol hefyd:
Pecyn ymgynghori ar ddiwygiadau arfaethedig i’r broses awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig (fersiwn hygyrch)
England, Northern Ireland, Scotland and Wales
Sut i ymateb
Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn erbyn 5 Mehefin 2024 trwy’r arolwg ar-lein. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i: RPconsultations@food.gov.uk
Os byddwch yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.
Hanes diwygio
Published: 2 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2024