Ymgynghoriad ar ddiweddariad arfaethedig i fframwaith cydymffurfio’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr
Ymgynghoriad ar ddiweddariad i fframwaith cydymffurfio ar arolygiadau rheolaethau swyddogol cynhyrchu cynradd mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio sylwadau rhanddeiliaid ar gynnig i gymhwyso fframwaith cydymffurfio wedi’i ddiweddaru i arolygiadau rheolaethau swyddogol cynhyrchu cynradd a gynhelir gan yr ASB mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr a defnydd dilynol o’r fframwaith hwn i bennu amlder yr arolygiad nesaf.
Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf:
- Sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr
- Proseswyr llaeth amrwd
- Sefydliadau masnach llaeth/cynnyrch llaeth
- Defnyddwyr cynhyrchion llaeth
- Awdurdodau gorfodi
Pwnc yr ymgynghoriad
Mae’r ASB yn ceisio sylwadau rhanddeiliaid ar gynnig i gymhwyso fframwaith cydymffurfio wedi’i ddiweddaru i arolygiadau rheolaethau swyddogol cynhyrchu cynradd a gynhelir gan yr ASB mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr a defnydd dilynol o’r fframwaith hwn i bennu amlder yr arolygiad nesaf.
Diben yr ymgynghoriad
Rhoi cyfle i grwpiau sydd â buddiant wneud sylwadau am y materion a ganlyn:
- Newidiadau arfaethedig i’r ffordd y caiff sgoriau cydymffurfio terfynol eu cymhwyso ar ôl i’r ASB gynnal arolygiadau ar sail rheolaethau swyddogol o ran cynhyrchu cynradd mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr
- Y modd y caiff y fframwaith sgorio risg newydd, a fydd yn cynnwys arolygiadau ychwanegol ar gyfer sefydliadau lle ceir risg uwch, ei ddefnyddio yn sgil y newidiadau uchod.
Pecyn ymgynghori
Sut i ymateb
Mae angen i ymatebion ddod i law erbyn 10 Mawrth 2023. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).
Dylid anfon ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i dairyops@food.gov.uk
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.
Hanes diwygio
Published: 9 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Rhagfyr 2022