Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar ddatblygu model gweithredu hylendid bwyd wedi’i foderneiddio yng Nghymru

Penodol i Gymru

Ymgynghoriad yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar ddatblygiadau arfaethedig ar gyfer model gweithredu hylendid bwyd (FHDM) wedi’i foderneiddio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 October 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 October 2023

Crynodeb o ymatebion

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf: 

  • Awdurdodau Cymwys – awdurdodau lleol  
  • busnesau bwyd a chyrff masnach y diwydiant 
  • sefydliadau sicrwydd trydydd parti ar gyfer diogelwch bwyd 
  • cyrff dyfarnu proffesiynol ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd yr amgylchedd a safonau masnach 
  • efallai y bydd gan Undebau Llafur a grwpiau arbenigol ddiddordeb hefyd. 

Pwnc yr ymgynghoriad 

Ym mis Medi 2022 cymeradwyodd Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd y prif bolisi a’r egwyddorion i werthuso llwyddiant ar gyfer FHDM wedi’i foderneiddio. Rydym nawr yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y datblygiadau arfaethedig canlynol: 

  • cynllun sgorio ymyriadau hylendid bwyd wedi’i foderneiddio 
  • dull wedi’i ddiweddaru sy’n seiliedig ar risg o ran yr amserlenni ar gyfer rheolaethau swyddogol cychwynnol mewn sefydliadau bwyd newydd, ac ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol priodol 
  • mwy o hyblygrwydd yn y dulliau a’r technegau rheolaethau swyddogol y gellir eu defnyddio i bennu lefel risg sefydliad, gan gynnwys, lle bo'n briodol, asesu o bell 
  • ehangu’r gweithgareddau y gall swyddogion, fel Swyddogion Cymorth Rheoleiddiol, nad oes ganddynt ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd eu cyflawni, os ydynt yn gymwys. 

Diben yr ymgynghoriad 

Ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar ddatblygiadau arfaethedig ar gyfer y FHDM wedi’i foderneiddio.  

Mae’r datblygiadau arfaethedig yn destun ymgynghoriadau ar wahân yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Pecyn ymgynghori 

Ymgynghoriad ar ddatblygu model gweithredu hylendid bwyd wedi’i foderneiddio – Cymru

Sut i ymateb 

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i roi eich sylwadau. Gallwch ddefnyddio naill ai’r PDF rhyngweithiol neu’r ddogfen Word. Dylid anfon y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad dros e-bost i hygienemodelreview@food.gov.uk.  

Mae angen cyflwyno sylwadau a safbwyntiau erbyn 23:59 Dydd Gwener 30 Mehefin 2023. 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion 

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, rydym yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a ddaeth i law a darparu dolen iddo o’r dudalen hon. 

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y ffordd rydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau

Mwy o wybodaeth 

Os oes angen fformat mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch fanylion i hygienemodelreview@food.gov.uk a byddwn yn ystyried eich cais. 

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi

Os cynhyrchwyd Asesiad Effaith, mae wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm yn y ddogfen ymgynghori. 

Ar ran yr ASB, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn. 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.