Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig

Ymgynghoriad ar 24 o geisiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid ac un cais am fwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol (PARNUT) i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi. Mae’r ceisiadau hyn wedi'u cyflwyno ar gyfer defnydd newydd, newydd yn unig, addasiadau ac adnewyddu gyda neu heb addasiadau i awdurdodiadau presennol ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid ac un bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol (PARNUT).

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 April 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 April 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

I bwy bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf? 

  • gwneuthurwyr, mewnforwyr/allforwyr a manwerthwyr bwyd anifeiliaid  
  • pob prynwr bwyd anifeiliaid, gan gynnwys ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ac anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd  
  • cyrff masnach sy’n cynrychioli rhanddeiliaid mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, amaethyddiaeth a’r amgylchedd  
  • undebau llafur sy’n cynrychioli rhanddeiliaid yn y diwydiant ffermio  
  • sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn cadwyni bwyd a chadwyni bwyd anifeiliaid  
  • Awdurdodau Gorfodi 

Mae rhestr o bartïon sydd â buddiant wedi’i chynnwys yn Atodiad A y pecyn ymgynghori. 

Pwnc yr ymgynghoriad 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â 24 o geisiadau am ychwanegion bwyd anifeiliaid ac un cais PARNUT i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid i’w hawdurdodi ym Mhrydain Fawr.    

Yn ogystal â’r ymgynghoriad hwn, rydym wedi cyhoeddi dogfen ar y cyd rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS), sy’n cynnwys argymhellion o ran rheoli risg ac asesiadau diogelwch ar gyfer y ceisiadau. 

Asesiadau diogelwch yr ASB/FSS

Asesiad Diogelwch RP24-25-26 Saccharomyces Cerevisiae (MUCL39885) 

Asesiad Diogelwch RP29 Pediococcus Acidilactici (CNCM I-4622) 

Asesiad Diogelwch RP140-141-142-284 Sodiwm Monensin

Asesiad Diogelwch RP185 6-Ffytas o Komagataella Phaffii (DSM 23036)

Asesiad Diogelwch RP222 Burum wedi’i seleneiddio Saccharomyces Cerevisiae (CNCM I-3060), sy’n anactifedig 

Asesiad Diogelwch RP641 Bacillus Velezensis (DSM 15544) 

Asesiad Diogelwch RP658 Lleihau’r Risg o Dwymyn Llaeth a Hypocalcaemia Isglinigol mewn Gwartheg Godro  

Asesiad Diogelwch RP1105 L-Histidin

Asesiad Diogelwch RP1125 L-Tryptophan 

Asesiad Diogelwch RP1126 L-Lysin Sylffad  

Asesiad Diogelwch RP1198 Hydrocsyanisol wedi’i fwtyleiddio (BHA)

Asesiad Diogelwch RP1199 L-Lysin

Asesiad Diogelwch RP1200 Deusodiwm 5'-Guanylad 

Asesiad Diogelwch RP1259 Muramidas 

Asesiad Diogelwch RP1349 Fitamin K1 

Asesiad Diogelwch RP1386 Celad Copr o Analog Hydrocsi o Fethionin 

Asesiad Diogelwch RP1387 Celad Manganîs o Analog Hydrocsi o Fethionin

Asesiad Diogelwch RP1388 Celad Sinc Celad o Analog Hydrocsi o Fethionin

Asesiad Diogelwch RP1591 Fumonisin Esteras

Mae RP1654 yn gofyn am newid gweinyddol o ran deiliad yr awdurdodiad yn unig, felly nid oes angen asesiad diogelwch. 

Diben yr ymgynghoriad 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi’r cyfle i safbwyntiau rhanddeiliaid gael eu cyflwyno ar awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid a PARNUTs. Bydd yr ASB yn ystyried adborth gan randdeiliaid, er mwyn hysbysu gweinidogion Cymru a Lloegr (gan roi gwybod i’r Gweinidog Iechyd yng Ngogledd Iwerddon) cyn iddynt wneud penderfyniad. 

Rydym yn ceisio adborth ar y telerau awdurdodi arfaethedig, ein hasesiad o’r effeithiau posib a nodir yn y pecyn ymgynghori, ac unrhyw dystiolaeth bellach a allai fod gennych ar effeithiau ychwanegol y dylem eu hystyried.   

Yn yr un modd, mae FSS yn cyhoeddi ymgynghoriad cyfochrog er mwyn llywio penderfyniad Gweinidogion yn yr Alban. 

Pecyn ymgynghori 

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol a’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn: Ymgynghoriad ar 24 o geisiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid ac un cais am fwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol (PARNUT) i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid.

Sut i ymateb 

Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn trwy’r arolwg ar-lein. Fel arall, gallwch e-bostio ymateb i: 

  • E-bost: RPconsultations@food.gov.uk
  • Enw: Y Tîm Cymeradwyo Cynhyrchion Rheoleiddiedig 
  • Is-adran/Cangen: Gwasanaethau Rheoleiddiedig 

Os ydych yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli. 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion 

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein Hysbysiad preifatrwydd ynghylch ymgynghoriadau

Mwy o wybodaeth 

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.