Newidiadau arfaethedig i'r marciau iechyd ac adnabod
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn croesawu barn rhanddeiliaid ar newidiadau arfaethedig i'r marciau iechyd ac adnabod y mae'n rhaid eu rhoi ar gynhyrchion bwyd sy'n dod o anifeiliaid i gadarnhau eu bod wedi'u harolygu a'u bod yn addas i'w fwyta gan bobl.
Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn
Mae'r ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i awdurdodau lleol a sefydliadau cymeradwy yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Pwnc ymgynghori
Mae manylion perthynas y Deyrnas Unedig (DU) gyda'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn y dyfodol yn parhau i fod yn destun trafodaethau. Fodd bynnag, mae'r ASB yn ymgynghori â rhanddeiliaid ar nifer o faterion manwl lle mae'n amlwg y bydd angen newid i arferion busnesau, beth bynnag fo canlyniad y trafodaethau hynny. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â newidiadau i farciau iechyd ac adnabod ar rai cynhyrchion bwyd penodol.
Diben yr ymgynghoriad
Pan fydd y DU yn ymadael â'r UE, ni chaniateir y llythrennau 'EU' neu 'EC' sydd ar y marciau presennol. Bydd y newid hwn yn effeithio ar bob sefydliad cymeradwy. Er mwyn darparu ar gyfer y newid hwn, mae'r ASB yn bwriadu diwygio'r marc iechyd ac adnabod presennol trwy gael gwared ar y rhagosodiad 'EU' neu 'EC'.
Bydd dimensiynau a ffurf y marciau iechyd ac adnabod presennol yn aros yr un fath, gan gynnwys y talfyriad "UK" sy'n cynrychioli Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd yn parhau i fod yn un marc sy'n cynnwys rhif cymeradwyo'r sefydliad, ni fydd y rhif yn newid chwaith.
Bydd y diweddariad hwn yn sicrhau bod cynnyrch y DU yn parhau i arddangos label priodol sy'n dangos yn glir bod y cynnyrch wedi bod yn destun y gwiriadau iechyd a lles llym a fydd yn parhau ar ôl i'r DU adael yr UE.
Diben yr ymgynghoriad hwn yw cael barn a gwybodaeth bellach gan y diwydiant ar y newidiadau arfaethedig hyn a'u heffaith bosibl.
England, Northern Ireland and Wales
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.