Diwygio darpariaethau gwybodaeth am alergenau mewn deddfwriaeth gwybodaeth am fwyd ddomestig ar gyfer bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol
Rydym ni'n croesawu barn rhanddeiliaid ar y newidiadau arfaethedig i ddarpariaeth gwybodaeth am alergenau ar fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol. Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i ddatblygu ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, Safonau Bwyd yr Alban, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn
Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i'r canlynol:
- defnyddwyr ag alergedd bwyd, anoddefiad bwyd a chlefyd seliag
- grwpiau cleifion
- sefydliadau diwydiant
- awdurdodau gorfodi
Pwnc yr ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi pedwar dewis polisi i wella darpariaeth yr wybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr ar fwyd sy'n cael ei becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol.
Diben yr Ymgynghoriad
Rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb roi sylwadau ac adborth ar y newidiadau arfaethedig i Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd ddomestig 2014 (FIR) (Cymru) a rheoliadau FIR cyfochrog yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr. Mae'r rhain yn ymwneud â gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd sy'n cael ei becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr.
ASB yn Esbonio
Pecyn ymgynghori
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.