Diwygiadau i Reoliad (UE) a Ddargedwir 2019/1793: Rheolaethau Swyddogol a Gynhelir ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel a Fewnforir nad ydynt yn Dod o Anifeiliaid
Ymgynghoriad sy’n ceisio sylwadau rhanddeiliaid ar ddiwygiadau arfaethedig ar gyfer diweddaru’r rhestrau yn yr Atodiadau i Reoliad (UE) a Ddargedwir 2019/1793. Byddai’r diwygiadau arfaethedig yn cymhwyso cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol ac amodau arbennig sy’n llywodraethu mynediad bwyd a bwyd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr o wledydd penodol.
Crynodeb o ymatebion
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?
Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru a Lloegr, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae Safonau Bwyd yr Alban wedi lansio ymgynghoriad cyfochrog ar wahân yn yr Alban.
Pwnc yr ymgynghoriad
Ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig ar gyfer diweddaru’r rhestrau o fewn Rheoliad (UE) a Ddargedwir 2019/1793 sy’n cymhwyso cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol ac amodau arbennig sy’n llywodraethu mynediad bwyd a bwyd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr o wledydd penodol.
Diben yr ymgynghoriad
Ceisio sylwadau rhanddeiliaid ar ddiwygiadau arfaethedig ar gyfer diweddaru’r rhestrau yn yr Atodiadau i Reoliad (UE) a Ddargedwir 2019/1793 (y Rheoliad).
Pecyn ymgynghori
Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol a’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn. Mae’r ddogfen ymgynghori lawn ar gael ar y tudalennau canlynol hefyd.
England and Wales
Sut i ymateb
Dylid ymateb i’r ymgynghoriad hwn trwy anfon neges â’r teitl ‘Ymgynghoriad Rheoliad 2019/1793’ i LASupportWales@food.gov.uk (yng Nghymru) neu imported.food@food.gov.uk (yn Lloegr).
Y Broses Ymgysylltu ac Ymgynghori
Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor tan ddydd Llun, 28 Awst 2023. Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, cynhelir adolygiad o’r canlyniadau a chyhoeddir adroddiad ymgynghori, gyda’n hargymhellion terfynol i’r Gweinidogion priodol.
Ymatebion
Mae angen ymatebion erbyn 5pm ddydd Llun, 28 Awst 2023. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).
Anfonwch eich ymateb, gyda’r teitl ‘Ymgynghoriad Rheoliad 2019/1793’ i LASupportWales@food.gov.uk (Cymru) neu imported.food@food.gov.uk (Lloegr).
I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Ymgyngoriadau.
Mwy o wybodaeth
Os oes angen y ddogfen hon arnoch chi mewn fformat haws ei ddarllen, anfonwch fanylion at y swyddog cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a bydd eich cais yn cael ei ystyried.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth y DU.
Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.
Yn gywir,
Olivia Citrone, Rheolwr Mewnforion ac Allforion, ASB Cymru
David Lowe, Pennaeth Strategaeth Mewnforion, ASB Lloegr
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.
Hanes diwygio
Published: 12 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Chwefror 2024