Diwygiadau i Reoliad a gymathwyd 2019/1793: Newidiadau i’r rheolaethau swyddogol a’r mesurau brys a gynhelir ar fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel a fewnforir nad ydynt yn dod o anifeiliaid
Ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i’r rhestrau o fewn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn a gymathwyd 2019/1793 (“Rheoliad 2019/1793”) sy’n cymhwyso cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol ac amodau arbennig sy’n llywodraethu mynediad bwyd a bwyd anifeiliaid penododedig nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr o wledydd penodedig.
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?
Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru a Lloegr, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi lansio ymgynghoriad cyfochrog ar wahân yn yr Alban.
Pwnc yr ymgynghoriad
Ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i’r rhestrau o fewn Rheoliad a gymathwyd 2019/1793 (“Rheoliad 2019/1793”) sy’n cymhwyso newidiadau at y rheolaethau swyddogol a’r mesurau brys sy’n llywodraethu’r trefniadau o ran pa fwyd a bwyd anifeiliaid penodedig nad ydynt yn dod o anifeiliaid sy’n cael dod i mewn i Brydain Fawr o wledydd penodedig.
Diben yr ymgynghoriad
Ceisio sylwadau rhanddeiliaid ar ddiwygiadau arfaethedig i’r rhestrau yn yr Atodiadau i Reoliad 2019/1793.
Y pecyn ymgynghori
Darllenwch y pecyn ymgynghori llawn:
Sut i ymateb
Dylid ymateb i’r ymgynghoriad hwn trwy anfon neges â’r teitl ‘Ymgynghoriad ar Reoliad 2019/1793’ i LASupportWales@food.gov.uk (yng Nghymru) neu Imported.Food@food.gov.uk (yn Lloegr).
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.