Canllawiau ar weithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd: canllawiau’r cynllun statudol a’r Safon Brand
Canllawiau i awdurdodau lleol ar weithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB), gan gynnwys canllawiau’r cynllun statudol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, a’r Safon Brand yn Lloegr.
Mae’r canllawiau’n sicrhau bod cysondeb yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Cymru
Canllawiau ar Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013
Diben y canllawiau hyn yw helpu swyddogion awdurdodedig yng Nghymru i roi Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013, a’r rheoliadau cysylltiedig, ar waith.
Dylid eu darllen ar y cyd â Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 a’r rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf.
Lloegr
Y Safon Brand
Mae’r canllawiau ar y Safon Brand yn rhoi cyngor ac arweiniad i awdurdodau lleol yn Lloegr ar bob agwedd ar weithredu’r cynllun.
Pan fydd busnesau bwyd yn cael eu sgorio o dan y cynllun ac wrth i ddefnyddwyr weld brandio’r cynllun, y nod yw sicrhau y gall defnyddwyr fod yn hyderus bod yr awdurdod lleol yn gweithredu’r cynllun yn unol â’n bwriad, a bod y cynllun yn cael ei roi ar waith yn gyson ledled Lloegr.
Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd: Canllawiau ar weithredu’r cynllun – y Safon Brand
Gogledd Iwerddon
Canllawiau ar Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2016
Mae’r canllawiau hyn wedi’u datblygu i sicrhau bod y cynllun statudol yn cael ei weithredu’n llwyddiannus a’i gymhwyso’n gyson yng Ngogledd Iwerddon.
Dylid eu darllen ar y cyd â Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2016 a’r rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf.
Materion cyfreithiol mewn perthynas â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Cwestiynau cyfreithiol yn ymwneud â gweithredu’r CSHB a safbwyntiau’r ASB ar y rhain, fel y’u nodir yn y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd – Materion Cyfreithiol (March 2021)
Hanes diwygio
Published: 15 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Hydref 2024